Rhyfel Cyntaf Tsietsnia

Gwrthdaro rhwng Ffederasiwn Rwsia a Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria o Ragfyr 1994 hyd Awst 1996 oedd Rhyfel Cyntaf Tsietsnia.

Rhyfel Cyntaf Tsietsnia

Hofrenydd Rwsiaidd a saethwyd lawr gan frwydrwyr Tsietsniaidd ger y brifddinas Grozny ym 1994
Dyddiad 11 Rhagfyr 1994 – 31 Awst 1996 (1 flwyddyn, 264 o ddiwrnodau)
Lleoliad Tsietsnia, rhannau o Ingushetia, Stavropol Krai a Dagestan
Canlyniad Cadoediad, buddugoliaeth Ffederasiwn Rwsia
Cydryfelwyr
Rwsia Ffederasiwn Rwsia
Cyngor Dros Dro Tsietsnia
Gweriniaeth Tsietsniaidd Itsceria
Arweinwyr
Boris Yeltsin
Pavel Grachev
Anatoly Kulikov
Konstantin Pulikovsky
Anatoliy Romanov
Anatoly Shkirko
Vyacheslav Tikhomirov
Gennady Troshev
Dzhokhar Dudayev
Aslan Maskhadov
Ibn al-Khattab
Shamil Basayev
Nerth
38,000 (Rhagfyr 1994)
70,500 (Chwefror 1995)
Amcangyfrif Rwsiaidd o ryw 15,000 o filwyr a 15,000 i ryfelwyr afreolaidd[1]
Anafusion a cholledion
Milwrol:
5,732 yn farw neu ar goll (cyfrif swyddogol)
Sifiliaid: Hyd at 100,000 o Rwsiaid ethnig yn y ddwy ryfel (amcangyfrif swyddogion Tsietsniaidd yn 2005)[2][3]

O leiaf 161 wedi'u lladd y tu allan i Dsietsnia[4]

Milwrol: 17,391 yn farw neu ar goll
Sifiliaid:
Hyd at 30,000–40,000 o Dsietsniaid yn y ddwy ryfel (amcangyfrif swyddogion Tsietsniaidd yn 2005)[2][3]

Cafodd y Blaid Gomiwnyddol yng Ngweriniaeth Tsietsnia ei dymchwel gan fudiad poblyddaidd Dzhokar Dudayev a ddatganodd annibyniaeth oddi ar Ffederasiwn Rwsia ar 1 Tachwedd 1991. Wnaeth lluoedd arfog Rwsiaidd yn y weriniaeth ffoi yn raddol, gan alluogi gwrthryfelwyr Tsietsniaidd i anrheithio'r arfdai milwrol ffederal a chael gafael ar arfau.

Ar gychwyn y gwrthdaro, ffafriodd Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, Boris Yeltsin, ymgyrch baner ffug ar ffurf gwrthryfel mewnol gyda chefnogaeth gudd y Wasanaeth Diogelwch Ffederal (FSB). Credodd na fyddai rhyfel rhwng claniau ym ymddangos yn annisgwyl yng nghymdeithas lwythol Tsietsnia.[5] Ar 5 Rhagfyr 1994, cydnabodd Yeltsin rhan Rwsia yn ymosodiadau gan filisia Ruslan Khasbulatov ar faes awyr a phalas arlywyddol y brifddinas Grozny ar 25 Tachwedd.[6] Anfonodd lluoedd Rwsiaidd i Tsietsnia fel rhan o Ymgyrch y Don yn Rhagfyr 1994 ac Ionawr 1995 gan lwyddio i gipio'r brifddinas ym Mrwydr Grozny, a thros yr ugain mis nesaf buont yn brwydro rhyfelwyr gerila yn ardaloedd mynyddig y weriniaeth.

Methodd Yeltsin i ragweld maint a brwdfrydedd y gwrthsafiad Tsietsniaidd, undod y Tsietsniaid, er gwaethaf eu gwahaniaethau llwythol, yn erbyn Rwsia, a'r tueddiad hanesyddol o fethiant ymgyrchoedd milwrol yn ystod gaeaf y Cawcasws.[7] Wrth i'r rhyfel fynd yn fwyfwy amhoblogaidd ymhlith cyhoedd Rwsia, datganodd Yeltsin gadoediad cyn etholiad arlywyddol 1996 ac arwyddwyd cytundeb ar 31 Awst 1996 i ddod â therfyn i'r rhyfel. Ni ddatrysodd y cytundeb yr anghydfod dros statws cyfansoddiadol Tsietsnia, a dechreuodd Ail Ryfel Tsietsnia ym 1999.

Cyfeiriadau golygu

Ffynonellau golygu

  • O'Ballance, E. (1997) Wars in the Caucasus, 1990–1995. Basingstoke: Palgrave Macmillan.