Rosetta (cerbyd gofod)

Chwiliedydd gofod robotaidd yw Rosetta a adeiladwyd ac a lawnsiwyd gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Gyda'i fodiwl glanio Philae, mae'n cynnal nifer o ymchwiliadau gwyddonol o'r comed 67P/Churyumov–Gerasimenko (67P).[1][2] Gwibiodd hefyd yn agos i'r blaned Mawrth a'r asteroidau 21 Lutetia a 2867 Šteins. Ar 12 Tachwedd 2014 llwyddwyd i lanio ar gomed - am y tro cyntaf yn hanes gwyddoniaeth y gofod. Yn Awst 2015 roedd data Philae yn parhau i gael ei ddanfon i'r fam gerbyd Rosetta, a'i drosglwyddo ymhellach i'r Ddaear.

Rosetta
Enghraifft o'r canlynolcomet probe Edit this on Wikidata
Màs3,000 cilogram Edit this on Wikidata
Rhan oHorizon 2000 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPhilae Edit this on Wikidata
GweithredwrAsiantaeth Ofod Ewropeaidd Edit this on Wikidata
GwneuthurwrAstrium Edit this on Wikidata
Hyd2.8 metr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://rosetta.esa.int Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma un o gonglfeini holl waith ESA. Mae'r prosiect yn cynnwys yr orbitiwr Rosetta ei hun, gyda 12 o offerynnau arno a Philae - glaniwr gyda 9 offeryn. Cynlluniwyd y prosiect gyda'r gobaith y byddai Rosetta'n orbitio 67P am gyfnod o 17 mis, gan wneud yr ymchwiliadau mwyaf manwl yn hanes ymchilio'r gofod. Caiff i cerbyd ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Gofod, Ewrop (European Space Operations Centre, neu ESOC) yn Darmstadt, yr Almaen. Cynlluniwyd ei phrif lwyth (neu'r payload) a'r trin data, yr archifo a dosbarthu gwybodaeth o Ganolfan Ewropeaidd Seryddiaeth y Gofod (European Space Astronomy Centre neu ESAC) yn Villanueva de la Cañada, ger Madrid, Sbaen. Yn y ddegawd cyn 2014 amcangyfrifir fod oddeutu 2,000 o bobl wedi cynorthwyo gyda'r gwaith a'r prosiect.

Daeth taith Rosetta i ben ar 30 Medi 2016, drwy ddilyn llwybr bwriadol i daro fewn i'r comed ger pydew o'r enw Deir el-Medina. Fe fydd buanedd y gwrthdrawiad yn weddol isel ond disgwylir i ddarnau o'r chwiliedydd gael ei ddinistrio. Fe fydd holl systemau ar y cerbyd yn cau lawr cyn hyn.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Agle, D. C.; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (30 Mehefin 2014). "Rosetta's Comet Target 'Releases' Plentiful Water". NASA. Cyrchwyd 30 Mehefin 2014.
  2. Chang, Kenneth (5 Awst 2014). "Rosetta Spacecraft Set for Unprecedented Close Study of a Comet". The New York Times. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
  3. Rosetta probe set for comet collision (en) , BBC News, 30 Medi 2016.