Philae (chwiliedydd)

(Ailgyfeiriad o Philae (cerbyd gofod))

Cerbyd glanio'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yw Philae[1][2] Gellir ei ddiffinio fel cerbyd robotaidd gan fod ganddo elfen o reoli ei hunan, wedi iddo lanio. Fe'i cludwyd ar ei daith gan y cerbyd gofod Rosetta[3][4] nes y glaniodd ar gomed 67P/Churyumov–Gerasimenko, dros ddeg mlynedd wedi iddo adael y Ddaear.[5][6] Yn Nhachwedd 2014, ugain munud wedi iddo lanio, darganfu synhwyryddion sbectromedreg màs ar Philae polymer organig (sef polyoxymethylene) yn y llwch oedd ar wyneb y comed. Mae'r polymer hwn (sydd wedi'i wneud o garbon, hydrogen ac ocsigen) hefyd i'w canfod oddi fewn i foleciwlau biolegol organebau byw, ac felly mae'r canfyddiad hwn o bwys mawr i wyddoniaeth ac yn newid ein gwybodaeth am sut y cychwynodd bywyd.[7]

Philae
Enghraifft o'r canlynollander Edit this on Wikidata
Màs97.9 cilogram Edit this on Wikidata
Rhan oRosetta Edit this on Wikidata
GweithredwrAsiantaeth Ofod Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Hyd1 metr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://rosetta.esa.int/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar 12 Tachwedd 2014, Philae oedd y cerbyd gofod cyntaf i lanio ar gomed.[8] Ffilmiodd, am y tro cyntaf erioed, luniau o wyneb comed.

Mae Philae'n cael ei reoli gan Ganolfan Ofod yr Almaen (Almaeneg: Deutsches Zentrum für Luft- und Raumfahrt e.V.) yng Nghwlen, yr Almaen.[9] Llwyddodd sawl offeryn ar fwrdd y cerbyd i gofnodi a dadansoddi gwneuthuriad cemegol a daearyddol y comed; llwyddodd hefyd i ddanfon yr wybodaeth hon yn ôl.[10]

Adroddiad fideo (Saesneg / Almaeneg) gan Ganolfan Ofod yr Almaen am daith Philae. (10 munud, mewn 1080p HD)

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw 'Philae' o enw'r obelisg a ddefnyddiwyd (gyda Charreg Rosetta i ddatrus a dehongli hieroglyffau Eifftaidd, gan fod arni destun dwyieithog wedi'i cherfio arni.

Y glanio

golygu

Ar 15 Tachwedd 2014, rhoddwyd Philae ar "safe mode" (neu 'hirgwsg') wedi i'w batris wacáu oherwydd y cysgodion dros y celloedd solar oedd yn eu pweru. Digwyddodd hyn gan i Philae lanio mewn man gwahanol i'r union fan a gynlluniwyd, gan iddi fownsio ar wyneb y comed, cyn dod i stop. Roedd gogwydd y comed, fodd bynnag, wedi newid erbyn Mehefin 2015, gan ganiatau i Philae fod yn llygad yr haul unwaith eto, ac ailgychwynodd yr offer. Ar 13 Mehefin 2015 roedd digon o bwer i ddanfon gwybodaeth i'w mam-gerbyd, y Rosetta, ac oddi yno i'r pencadlys yng Nghwlen, yr Almaen lle dadansoddwyd yr wybodaeth gan wyddonwyr. Ysbeidiol, fodd bynnag, yw'r trosglwyddiad.[11][12]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "philae". Dictionary.com Unabridged. Random House. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.
  2. Ellis, Ralph (12 Tachwedd 2014). "Space probe scores a 310-million-mile bull's-eye with comet landing". CNN. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.
  3. Chang, Kenneth (5 Awst 2014). "Rosetta Spacecraft Set for Unprecedented Close Study of a Comet". The New York Times. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
  4. "In Pursuit of an Oddly Shaped Comet". The New York Times. 23 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2014.
  5. Biele, Jens (2002). "The Experiments Onboard the ROSETTA Lander". Earth, Moon, and Planets 90 (1–4): 445–458. Bibcode 2002EM&P...90..445B. doi:10.1023/A:1021523227314.
  6. Agle, D. C.; Cook, Jia-Rui; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (17 Ionawr 2014). "Rosetta: To Chase a Comet". NASA. Cyrchwyd 18 Ionawr 2014.
  7. The Independant; 31 Gorffennaf 2015; tudalen 23
  8. Agle, D. C.; Webster, Guy; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (12 Tachwedd 2014). "Rosetta's 'Philae' Makes Historic First Landing on a Comet". NASA. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.
  9. "Rosetta Lander Control Center". German Aerospace Center. Cyrchwyd 20 Mawrth 2015.
  10. "Pioneering Philae completes main mission before hibernation". Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. 15 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 3 Mawrth 2015.
  11. Biever, Celeste; Gibney, Elizabeth (14 Mehefin 2015). "Philae comet lander wakes up and phones home". Nature. doi:10.1038/nature.2015.17756.
  12. "Spacecraft That Landed on Comet Finally Wakes Up". The New York Times. Associated Press. 14 Mehefin 2015. Cyrchwyd 14 Mehefin 2015.