Philae (chwiliedydd)
Cerbyd glanio'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yw Philae[1][2] Gellir ei ddiffinio fel cerbyd robotaidd gan fod ganddo elfen o reoli ei hunan, wedi iddo lanio. Fe'i cludwyd ar ei daith gan y cerbyd gofod Rosetta[3][4] nes y glaniodd ar gomed 67P/Churyumov–Gerasimenko, dros ddeg mlynedd wedi iddo adael y Ddaear.[5][6] Yn Nhachwedd 2014, ugain munud wedi iddo lanio, darganfu synhwyryddion sbectromedreg màs ar Philae polymer organig (sef polyoxymethylene) yn y llwch oedd ar wyneb y comed. Mae'r polymer hwn (sydd wedi'i wneud o garbon, hydrogen ac ocsigen) hefyd i'w canfod oddi fewn i foleciwlau biolegol organebau byw, ac felly mae'r canfyddiad hwn o bwys mawr i wyddoniaeth ac yn newid ein gwybodaeth am sut y cychwynodd bywyd.[7]
Enghraifft o'r canlynol | lander |
---|---|
Màs | 97.9 cilogram |
Rhan o | Rosetta |
Gweithredwr | Asiantaeth Ofod Ewropeaidd |
Hyd | 1 metr |
Gwefan | http://rosetta.esa.int/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 12 Tachwedd 2014, Philae oedd y cerbyd gofod cyntaf i lanio ar gomed.[8] Ffilmiodd, am y tro cyntaf erioed, luniau o wyneb comed.
Mae Philae'n cael ei reoli gan Ganolfan Ofod yr Almaen (Almaeneg: Deutsches Zentrum für Luft- und Raumfahrt e.V.) yng Nghwlen, yr Almaen.[9] Llwyddodd sawl offeryn ar fwrdd y cerbyd i gofnodi a dadansoddi gwneuthuriad cemegol a daearyddol y comed; llwyddodd hefyd i ddanfon yr wybodaeth hon yn ôl.[10]
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw 'Philae' o enw'r obelisg a ddefnyddiwyd (gyda Charreg Rosetta i ddatrus a dehongli hieroglyffau Eifftaidd, gan fod arni destun dwyieithog wedi'i cherfio arni.
Y glanio
golyguAr 15 Tachwedd 2014, rhoddwyd Philae ar "safe mode" (neu 'hirgwsg') wedi i'w batris wacáu oherwydd y cysgodion dros y celloedd solar oedd yn eu pweru. Digwyddodd hyn gan i Philae lanio mewn man gwahanol i'r union fan a gynlluniwyd, gan iddi fownsio ar wyneb y comed, cyn dod i stop. Roedd gogwydd y comed, fodd bynnag, wedi newid erbyn Mehefin 2015, gan ganiatau i Philae fod yn llygad yr haul unwaith eto, ac ailgychwynodd yr offer. Ar 13 Mehefin 2015 roedd digon o bwer i ddanfon gwybodaeth i'w mam-gerbyd, y Rosetta, ac oddi yno i'r pencadlys yng Nghwlen, yr Almaen lle dadansoddwyd yr wybodaeth gan wyddonwyr. Ysbeidiol, fodd bynnag, yw'r trosglwyddiad.[11][12]
Gweler hefyd
golygu- Juno (chwiliedydd): chwiliedydd sy'n cylchdroi'r blaned Iau. Cafodd ei lansio gan NASA o Orsaf Awyrlu Cape Canaveral ar 5 Awst 2011.
- Paleontoleg
- Astrofioleg
- Bywyd
- Daeareg
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "philae". Dictionary.com Unabridged. Random House. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.
- ↑ Ellis, Ralph (12 Tachwedd 2014). "Space probe scores a 310-million-mile bull's-eye with comet landing". CNN. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.
- ↑ Chang, Kenneth (5 Awst 2014). "Rosetta Spacecraft Set for Unprecedented Close Study of a Comet". The New York Times. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
- ↑ "In Pursuit of an Oddly Shaped Comet". The New York Times. 23 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2014.
- ↑ Biele, Jens (2002). "The Experiments Onboard the ROSETTA Lander". Earth, Moon, and Planets 90 (1–4): 445–458. Bibcode 2002EM&P...90..445B. doi:10.1023/A:1021523227314.
- ↑ Agle, D. C.; Cook, Jia-Rui; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (17 Ionawr 2014). "Rosetta: To Chase a Comet". NASA. Cyrchwyd 18 Ionawr 2014.
- ↑ The Independant; 31 Gorffennaf 2015; tudalen 23
- ↑ Agle, D. C.; Webster, Guy; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (12 Tachwedd 2014). "Rosetta's 'Philae' Makes Historic First Landing on a Comet". NASA. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.
- ↑ "Rosetta Lander Control Center". German Aerospace Center. Cyrchwyd 20 Mawrth 2015.
- ↑ "Pioneering Philae completes main mission before hibernation". Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. 15 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 3 Mawrth 2015.
- ↑ Biever, Celeste; Gibney, Elizabeth (14 Mehefin 2015). "Philae comet lander wakes up and phones home". Nature. doi:10.1038/nature.2015.17756.
- ↑ "Spacecraft That Landed on Comet Finally Wakes Up". The New York Times. Associated Press. 14 Mehefin 2015. Cyrchwyd 14 Mehefin 2015.