Twrog

sant Cymreig o'r 6-7C

Sant o'r chweched neu'r 7g oedd Twrog. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Ithel Hael.

Twrog
Sant Twrog; llun o ffenestr liw yn Eglwys Sant Twrog, Maentwrog, Gwynedd.
GanwydTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Hanes a thraddodiad golygu

Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Llandwrog (ger Caernarfon, Gwynedd). Twrog yw nawddsant Maentwrog ym Meirionnydd (de Gwynedd) hefyd. Yn ogystal mae'n nawddsant Bodwrog ym Môn.[1]

Ym Maentwrog ceir carreg anferth yng ngongl yr eglwys, sy'n wahanol i'r cerrig eraill ynddi, ac a elwir wrth yr enw Maen Twrog. Yn ôl traddodiad taflodd y sant y maen mawr o ben y Moelwynion.[1]

 
Eglwys Bodwrog

Ei wylmabsant yw 26 Mehefin (hefyd 15 Awst).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of welsh Saints (Caerdydd, 2001).