Ithel Hael
pendefig o Lydaw
Pendefig o Lydaw, o dras Frythonig, oedd Ithel Hael (fl. 6g), neu Ithael Hael mewn rhai ffynonellau.
Ithel Hael | |
---|---|
Plant | Tanwg, Gredifael, Tecwyn, Fflewyn, Trillo, Llechid |
- Erthygl am Lydawr o'r 6ed ganrif yw hon. Am enghreifftiau o bobl eraill o'r enw Ithel, gweler Ithel.
Ni wyddys nemor ddim amdano ond mae ganddo le yn hanes Cymru fel tad nifer o seintiau. Dywedir iddo ddod drosodd o Lydaw i Gymru gyda llwyth Emyr Llydaw i ddianc rhag y Ffranciaid.
Ceir dwy achrestr sy'n ymwneud ag Ithel yn y llawysgrifau. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg, Gredifael, Tecwyn a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir y rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Fflewyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan. Dywedir fod Fflewyn wedi dod i Gymru gydag Emyr Llydaw a Sant Cadfan.
Cyfeiriadau
golygu- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001)