Bodwrog

eglwys a phlwyf eglwysig ym Modwrog, Ynys Môn

Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Bodwrog, a leolir ger Gwalchmai yng nghanol Môn, i'r gogledd o dref Llangefni. Mae'n rhan o Ddeoniaeth Malltraeth yn Esgobaeth Bangor.

Eglwys Bodwrog.

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol bu Bodwrog yn rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Twrog, sant o'r 6g efallai a gysylltir hefyd â Llandwrog yn Arfon a Maentwrog ym Meirionnydd. Mae'r eglwys bresennol (cyfeirnod AO: SH 401776) yn dyddio o ddiwedd y 15g; ychwanegwyd y clochdy yn 1668.[1] Ystyr yr enw 'Bodwrog' yw "trigfan Twrog" (bod + Twrog).

Safai plasdy Bodychen ym mhlwyf Bodwrog. Un o uchelwyr Bodychen oedd Rhys ap Llywelyn (m. tua 1503-1504). Cofnodir iddo arwain mintai o wŷr Môn i ymladd ym myddin Harri Tudur ar Faes Bosworth yn 1487. Cedwir sawl cerdd i deulu'r plas, yn cynnwys un gan gan Lewys Môn (bl. 1485-1527), un o feirdd mwyaf y cyfnod. Mae'r plasdy yn adfail heddiw.

Cadwraeth golygu

Mae Cors Bodwrog yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu