William Addams-Williams

Roedd William Addams-Williams (10 Awst 17875 Medi 1861) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd a gynrychiolodd Sir Fynwy yn y senedd o 1831 i 1841.[1]

William Addams-Williams
Ganwyd10 Awst 1787 Edit this on Wikidata
Llangybi Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1861 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd Personol golygu

Roedd Addams-Williams, yn fab i William Addams-Williams, Castell Llangybi a Caroline merch Samuel Marsh, Uxbridge.

Ym 1818 priododd a Anna Louisa merch y Parch Iltyd Nicholl rheithor Teddington Sir Caerwrangon [2], ac aelod o deulu Nicholl, Sir Forgannwg; bu iddynt un mab a dwy ferch. Wŷr iddo oedd y Parch William Addams Williams Evans (1853- 1919) a chwaraeodd i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, yn y ddwy gêm ryngwladol gyntaf ym 1876 a 1877.[3]

Gyrfa gyhoeddus golygu

Ar farwolaeth ei dad ym 1823 Etifeddodd Williams ystâd Llangybi[4] Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar Fainc Sir Fynwy, bu'n dirprwy raglaw'r sir, a gwasanaethodd fel yr Uchel Siryf ym 1827. Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth y sir ym 1831 gan dal y sedd hyd 1840 pan fu'n rhaid iddo ymddeol oherwydd salwch difrifol.[5]

Marwolaeth golygu

 
Eglwys Llangybi

Bu farw yn ei gartref, Castell Llangybi yn 75 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng Nghladdgell deuluol yn Eglwys Llangybi.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. The History of Parliament on line ADDAMS WILLIAMS, William (1787-1861), of Llangibby Castle, Mon [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  2. "No title - The Cambrian". T. Jenkins. 1818-08-22. Cyrchwyd 2015-12-20.
  3. Gwasanaethau Archif Cyngor Wrecsam Rhaglen y Gêm (Cymru v Alban 1876) [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  4. Yr Archif Genedlaethol Will of William Addams Williams of Llangibby Castle, Monmouthshire [3]. adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  5. "LLANGIBBY - The Illustrated Usk Observer and Raglan Herald". James Henry Clark. 1861-09-07. Cyrchwyd 2015-12-20.
  6. "DEATH OF WILLIAM ADDAMS WILLIAMSES OF LLANGIBBY CASTLE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1861-09-14. Cyrchwyd 2015-12-19.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Gould Morgan
Aelod Seneddol Sir Fynwy
18311841
Olynydd:
Charles Octavius Swinnerton Morgan