Charles Octavius Swinnerton Morgan

hynafiaethydd a hanesydd lleol

Gwleidydd o Gymru oedd Charles Octavius Swinnerton Morgan (15 Medi 18035 Awst 1888). Roedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig a chynrychiolodd Sir Fynwy yn Senedd Prydain Fawr am 33 o flynyddoedd rhwng 1841 a 1874; er hynny nid fel gwleidydd mae'n cael ei gofio'n bennaf ond fel hanesydd, hynafiaethydd a chymwynaswr i'r Amgueddfa Brydeinig.[1]

Charles Octavius Swinnerton Morgan
Ganwyd15 Medi 1803 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1888 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadSyr Charles Morgan, 2ail Farwnig Edit this on Wikidata
MamMary Margaret Stoney Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Morgan yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd yn bedwerydd fab i Syr Charles Gould Morgan, 2il Farwnnig a Mary Magdelen (née Stoney) ei wraig. Brodyr iddo oedd Charles Morgan, Barwn Cyntaf Tredegar. roedd yn ewythr i Charles Rodney Morgan, Frederick Courtenay Morgan a Godfrey Charles Morgan

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1825 ac MA ym 1832.[2]

Roedd yn dibriod.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Gwasanaethodd Morgan fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy rhwng 1841 a 1874. Roedd bob amser yn Dori pybyr, yn pleidleisio gyda'i blaid yn ddieithriad; roedd yn erbyn diddymu'r Deddfau Yd, yn erbyn y Mesur Rhyddhad Catholig ac yn gwrthwynebu datgysylltu'r Eglwys Gwladol yng Nghymru a'r Iwerddon[3]. Yn etholiad 1874 ildiodd ei sedd i'w nai a'i gyd Dori, Frederick Courtenay Morgan

Hynafiaethydd

golygu
 
Cloc galiwn, rhodd Morgan i'r Amgueddfa Brydeinig

Roedd Morgan yn Gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a llywydd y Sefydliad Archeolegol. Gwasanaethodd fel is lywydd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr fwy nag unwaith a gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru1857-1858.

Roedd gan Morgan casgliad mawr o hynafolion yn ei dy The Friars, Casnewydd gan gynnwys pulpud Tuduraidd o'r hwn yr oedd yn aml yn pregethu i gynulleidfa o'i weision, morynion a gweithwyr yr ystâd.

Roedd yn gasglwr brwd o hynafolion mecanyddol megis cloeon, oriorau, offerynnau seryddol, ac awtomata gan gynnwys galiwn mecanyddol goreurog a roddodd i'r Amgueddfa Brydeinig[4].

Roedd ganddo gasgliad helaeth o fodrwyon esgobion a chasgliad o lwyau. Ar ôl ei farwolaeth cyflwynwyd rhan helaeth o'r casgliad i'r Amgueddfa Brydeinig trwy ei ewyllys[5]. Mae ei gasgliadau o ddogfennau hynafiaethol, a'i gyfieithiadau i'r Saesneg o farddoniaeth Cymraeg yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.[6]

Cyhoeddiadau

golygu

Ysgrifennodd yn helaeth i gylchgronau am yr hynafiaethau a chyhoeddodd nifer o daflenni a llyfrynnau ar y pwnc gan gynnwys:[7]

  • Observations on the Early Communion Plate used in the Church of England
  • Observations on a Collection of Spoons
  • Observations on the History and Progress in the Art of Watchmaking from the Earliest Period to Modern Times (1849)
  • A report on the Excavations Prosecuted by the Caerleon Antiquaries Association Within the Walls of Caerwent (1850)
  • Assay Marks on Gold and Silver Plate 1852
  • Notes on the Architecture of Caldicot Castle, 1854
  • Notes on the Ecclesiastical Remains of Runston, Sudbrook, Dinham, and Llanbedr, 1858
  • The Monastery of Austin Friars, 1859
  • Notes on the Ancient Domestic Residences ot Pentrebach, Crick, Tymawr, The Garn, Crindau, and St. Julians, 1860
  • Notes on Treomen, Killwch, aud the Wain 1861
  •  Notes on Wentwood Castle Troggy and Llanvair 1863
  • Pencoyd Castle and Langstone 1864
  • Penhow Castle, 1867.
  • An account of the monuments at Abergavenny Church, 1869
  • Notes on Newport Castle St Woollo's Church and the Lordship of Wentloog

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref the Friars o apoplecsi yn 84 oed[8]. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddrod y teulu yn Eglwys St Basil ym Masaleg yn Sir Fynwy[9]. Codwyd tabledi coffa efydd iddo yn eglwysi St Woollos, Casnewydd ac Eglwys Basaleg[10].

Cyfeiriadau

golygu
  1. "MORGAN, CHARLES OCTAVIUS SWINNERTON (1803-1888)", Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 17 Mehefin 2016
  2. J. A. Jenkins, "Morgan, Charles Octavius Swinnerton (1803–1888)", rev. Brynley F. Roberts, Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press, 2004), adalwyd 17 Mehefin 2016
  3. "THE LATE MR OCTAVIUS MORGAN - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-08-07. Cyrchwyd 2016-06-17.
  4. Mechanical Galleon
  5. "THE BEST COLLECTION OF CLOCKS AND WHTCHES - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-10-08. Cyrchwyd 2016-06-17.
  6. Yr Archif Genedlaethol Tredegar MSS antiquarian, political and other corresp and papers
  7. WorldCat au:Morgan, Charles Octavius Swinnerton.
  8. "DEATH OF MR OCTAVIUS MORGAN - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-08-06. Cyrchwyd 2016-06-17.
  9. "FUNERAL OF MR OCTAVIUS MORGAN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1888-08-11. Cyrchwyd 2016-06-17.
  10. "THE LATE MR OCTAVIUS MORGAN OF NEWPORT - The Western Mail". Abel Nadin. 1893-12-22. Cyrchwyd 2016-06-17.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Addams-Williams
Aelod Seneddol Sir Fynwy
18411874
Olynydd:
Frederick Courtenay Morgan