William Addams Williams Evans
Roedd William Addams Williams Evans (Medi 1853 - 23 Ebrill 1919) yn eglwyswr Gymreig a chwaraeodd i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, yn y ddwy gêm ryngwladol gyntaf ym 1876 a 1877 cyn ddilyn gyrfa fel gweinidog yn Eglwys Loegr.[1]
William Addams Williams Evans | |
---|---|
Ganwyd | Medi 1853 Brynbuga |
Bu farw | 23 Ebrill 1919 Llandegfedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pêl-droediwr, offeiriad |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Oxford University A.F.C. |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd ac addysg gynnar
golyguGaned Evans ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn fab i'r Parch William Evans y ficer lleol a Caroline Frances, merch William Addams-Williams , Castell Llangybi, Aelod Seneddol Sir Fynwy, ar ôl yr hwn y cafodd ei enwi.
Ar ôl cwblhau ei addysg yn Ysgol Amwythig lle fu'n aelod o dîm criced yr ysgol[2], aeth Evans i Goleg Sant Ioan, Rhydychen ym 1872 lle raddiodd ym 1877 fel Baglor yn y Celfyddydau ac yna ordeiniwyd ef fel Curad yn Eglwys Loegr.[1][3]
Gyrfa Eglwysig
golyguGwasanaethodd Evans fel curad yn Barwell, Swydd Gaerlŷr am chwe blynedd cyn cyfnodau byr yn Eglwys yr Holl Saint, Northampton a Harrowden, Swydd Bedford.
Ym 1885, dychwelodd i Sir Fynwy i wasanaethu fel rheithor Llandegfedd, lle y bu hyd ei farwolaeth ym 1919.
Gyrfa pêl-droed
golyguTra ym Mhrifysgol Rhydychen, chwaraeodd Evans i dîm pêl-droed y brifysgol ond methodd i ennill glas. Ym 1876, atebodd hysbyseb a osodwyd gan Llewelyn Kenrick yn "The Field" i chwilio am chwaraewyr o Gymru i gynrychioli eu gwlad mewn gem yn erbyn Yr Alban.[4]
Evans oedd yr unig chwaraewr o Dde Cymru a ddewiswyd ar gyfer XI rhyngwladol cyntaf Cymru, gyda phob chwaraewr arall yn dod o'r gogledd (ac eithrio John Hawley Edwards a aned yn yr Amwythig ac oedd wedi cynrychioli tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn flaenorol). Chwaraewyd y gêm yn Hamilton Crescent, Partick, ar 25 Mawrth 1876 collodd Cymru'r gêm o 4 gôl i ddim.[5]
Chwaraewyd gêm gartref yn erbyn yr Alban ar y Cae Ras, Wrecsam ar Fawrth 5, 1877, gydag Evans yn cadw ei le yn yr amddiffyn. Bu'r Albanwyr yn fuddugol eto, gan ennill 0-2, gydag un o'r goliau yn cael ei sgorio gan Evans yn ei rwyd ei hun.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Davies, Gareth; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 62. ISBN 1-872424-11-2.
- ↑ Cricet Archive William Addams-Williams-Evans [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ Nodyn:Cite wikisource
- ↑ "The Story of Welsh Football". 1876 Kenrick's Challenge. www.wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 2015-12-20.
- ↑ "Wales 0 Scotland 2 (5 March 1877)". Welsh Football Data Archive. Cyrchwyd 2015-12-20.
- ↑ Sgorio S4C Hanes [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2015