Yn ôl y traddodiadau Cristnogol ac Iddewig, cedwid gweddillion dwy lech Deng Air Duw, a roddwyd i Foses, yn Arch y Cyfamod.

Arch y Cyfamod
Enghraifft o'r canlynolbiblical concept, fictional object Edit this on Wikidata
Deunyddacacia wood, aur, hide Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMercy seat Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cludo'r Arch i'r Deml yng Nghaersalem (Les Très Riches Heures du duc du Berry, Museé Condé, Chantilly)

Ei ffurf a'i symboliaeth golygu

Ystyr y gair arch yw "cist neu flwch" (Lladin arca). Math ar gist o goed Sittim neu acasia ydoedd, yn ôl Llyfr Ecsodus (Ecs. 25.10). Roedd yn oreuriedig ag aur ac yn cael eu cludo ar bolion oedd yn ffitio mewn pedair dolen ar ymyl yr arch.

Yn y litwrgiaid Cristnogol mae'r arch yn symbol o'r Forwyn Fair, am fod ei chorff (fel "arch" o gig a gwaed) wedi dwyn Iesu Grist, a roddodd gyfamod newydd i'r byd.

Ei hanes golygu

Gorchmynodd Duw i Foses ei gwneud er mwyn cymryd lle'r Llo Aur. Yn ogystal â'r llechi rhoddwyd ynddi bot o fanna a ffon Aaron. Roedd yn cael eu cludo gan yr Israeliaid o flaen eu byddin ac wrth deithio i Dir yr Addewid.

Yn yr Hen Destament mae'n cael ei galw'n Arch Iafe, Arch Cyfamod Iafe (Dewt. 10.8, 31.26) ac yn Arch y Dystiolaeth (e.e. Ecs. 25.16) yn y Pumlyfr a'r llyfrau hanes cynnar.

Yn Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd dywedir mai ar orchymyn Solomon y dygwyd yr arch i'r deml newydd yng Nghaersalem, lle cafodd ei osod yn y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y ceriwbiaid (1 Bren. 8.7-7). Dawnsiodd y brenin Dafydd o'i blaen yn y deml.

Yn ôl traddodiad fe'i cludwyd i ffwrdd i Fabilon gan y brenin Nebuchodonosor pan gipiwyd Caersalem ganddo yn 586 C.C..

Ceir traddodiad bod Jeremeia wedi cuddio'r arch mewn ogof (II Mac. 2.4-8) lle bydd yn aros tan ddiwedd y byd.

Cymru'r Oesoedd Canol golygu

Ceir cyfeiriad at yr arch yn y gerdd ddarogan ddylanwadol "Yr Awdl Fraith", a briodolir i Daliesin, lle y'i gelwir arca ffedra:

Ef a gafas Salmon
Yn nhŵr Babilon
Holl gelfyddydion
Arca ffedra.

Ethiopia golygu

Yn Ethiopia mae hen draddodiad yn honni bod yr arch ar gadw yn Eglwys yr Arch yn Axum, yng ngogledd y wlad, ond nid yw ar ddangos i'r cyhoedd.

Cyfeiriadau golygu

  • Thomas Rees ac eraill (gol.), Y Geiriadur Beiblaidd, 2 gyfrol (Wrecsam, 1926)
  • J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983). ISBN 0500273731