Nebuchadnesar II
Roedd Nebuchodnesar II neu Nebuchadnezzar II (Cymraeg Beiblaidd: Nebuchodonosor [1]) (605 CC - 562 CC) yn frenin Babilon ym Mesopotamia (de Irac heddiw). Mae'n gymeriad pwysig yn yr Hen Destament.
Nebuchadnesar II | |
---|---|
Ganwyd | c. 642 CC Uruk |
Bu farw | c. 561 CC Babilon |
Galwedigaeth | teyrn, arweinydd, brenin |
Swydd | King of Babylon |
Adnabyddus am | Gerddi Crog Babilon, Ishtar Gate |
Tad | Nabopolassar |
Priod | Amytis of Media |
Plant | Amel-Marduk, Eanna-sharra-usur |
Yn ystod ei ryfel yn erbyn teyrnas Judaea cipiodd Nebuchodnesar ddinas Jeriwsalem a'i dinistrio yn 586 CC. Gorfodwyd nifer o'r trigolion i fudo i Fesopotamia. Mae'r Iddewon yn galw'r cyfnod a dreuliasant yno yr Alltudiaeth Fabilonaidd. Yn ôl traddodiad cludwyd Arch y Cyfamod i Fabilon ganddo.
Ymhlith y carcharorion oedd Daniel. Enillodd Daniel rym a dylanwad ym Mabilon trwy egluro ystyr breuddwyd a gafodd y brenin am ddelwedd aur â thraed o glai (Dan 2:32-3). Gyda thri Iddew arall, Shadrach, Meshach ac Abednego, gwrthododd Daniel addoli'r delwedd aur a greuwyd ar orchymyn y brenin a goroesodd brofedigaeth y Ffwrnas Tanllyd (Dan 3:19-30). Tro arall anwybyddodd Nebuchodnesar ddadansoddiad Daniel o freuddwyd am goeden a dorwyd i lawr i'w bôn gan angel, a oedd yn golygu y byddai'r brenin yn cael ei ddarostwng os nad edifarheuai. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yntau'n bostio am ei allu mawr, aeth Nebuchodnesar o'i gof. Aeth i grwydro yn yr anialwch gan fwyta gwair fel anifail gwyllt (Dan 4:33).
Roedd y gerddi crog enwog ym Mabilon a godwyd ar do palas y brenin, neu yn ei ymyl, yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
Nebuchodnesar II yw'r cymeriad teitl yn opera Verdi Nabucco.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Cyfieithiad o gyhoeddiad Porth Ishtar
- (Saesneg) Cyhoeddiad Porth Ishtar o gyfnod Nebuchodnesar
- ↑ Beibl Cymraeg 1620 Jeremiah 21:2 adalwyd 28, Tachwedd, 2018