Ardal De Swydd Stafford
ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal De Swydd Stafford (Saesneg: South Staffordshire District).
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Stafford |
Prifddinas | Codsall |
Poblogaeth | 111,527 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Stafford |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 407.3223 km² |
Cyfesurynnau | 52.6258°N 2.1918°W |
Cod SYG | E07000196 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of South Staffordshire Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 407 km², gyda 112,126 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio â dwy ardal arall Swydd Stafford, sef Bwrdeistref Stafford, ac Ardal Cannock Chase, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig, Swydd Gaerwrangon a Gorllewin Canolbarth Lloegr i'r gorllewin, de a dwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd yr hen awdurdodau lleol Ardal Wledig Cannock yn y gogledd ac Ardal Wledig Seisdon yn y de.
Rhennir yr ardal yn 29 o blwyfi sifil. Mae ei phencadlys yn nhref Codsall. Mae'n cynnwys tref Penkridge hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 20 Mawrth 2020