Ardal Gadwraeth Parc Salisbury, Wrecsam

Ardal gadwraeth i'r de o ganol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Ardal Gadwraeth Parc Salisbury[1] (Saesneg: Salisbury Park Conservation Area).

Capel Pen-y-bryn, Stryt y Capel, Wrecsam

Lleoliad

golygu

Mae'r ardal gadwraeth yn gorwedd ar dir uchel ar lan ddeheuol afon Gwenfro, i'r de o ganol Wrecsam. Mae'r ardal yn edrych i lawr dros ganol y ddinas, sy'n caniatáu golygfeydd o dwr Eglwys San Silyn.

Asgwrn cefn yr ardal gadwraeth yw Ffordd Salisbury (Salisbury Road), Ffordd y Poplys (Poplar Road) a Stryt y Capel (Chapel Street). Ynghyd a Ffordd Bennion, mae'r strydoedd hyn yn cysylltu maestrefi hanesyddol Pen-y-bryn a Hightown. Mae'r ardal yn cynnwys hefyd rhannau o Ffordd Talbot (Talbot Road), Stryt Maesteg (Fairfield Street), Ffordd Percy (Percy Road), Allt Madeira (Madeira Hill), Stryt Earle (Earle Street) a Theras Bryn Draw (Bryndraw Terrace). [2] [3]

Datblygwyd Ffordd Salisbury yng nghanol y 19eg ganrif. Ar fap o 1872, mae'n ymddangos fel “Parc Salisbury”. Mae'r enw Salisbury yn deillio o'r Cyrnol Salisbury a etifeddodd y tir oddi wrth ei deulu, y teulu Thewell, yn y 18fed ganrif.

Yn ystod y 19eg ganrif, datblygwyd Ffordd Salisbury yn stryd breswyl, gyda filas Fictoraidd mawr yn sefyll ar ei thiroedd sylweddol, ond cofiwyd yn yr ardal tai teras mwy cyffredin hefyd.

Y datblygiadau pwysicaf yn yr ardal rhwng 1872 a throad yr 20fed ganrif oedd codi Ysgol San Silyn ar Ffordd y Poplys a Chapel Annibynnol Parc Salisbury ar gornel Ffordd Salisbury a Ffordd Percy. Yn anffodus, dymchwelwyd y capel yn 1981, ond mae adeiladau ysgol San Silyn yn dal i sefyll.

Enw gwreiddiol Stryt y Capel oedd Street Draw (mae'r enw 'draw' wedi cael ei gadw yn enw side street “Teras Bryndraw”). Mae'n debyg bod y stryd wedi cael ei gosod yn y 18fed ganrif, ar adeg pan oedd Wrecsam yn tyfu ar ddwy ochr afon Gwenfro.

Adeiladwyd Capel Penybryn yn 1789, yn wreiddiol ar gyfer yr Annibynwyr Saesneg. Yn 1881, cafodd yr adeilad ei ailfodelu'n helaeth. Gwerthwyd y capel I Eglwys Cymraeg y Bedyddwyr pan symudodd yr annibynwyr i gapel newydd gerllaw ar Ffordd Salisbury. Yn yr ugeinfed ganrif, dymchwelwyd nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys rhesi o dai teras.

Roedd Bragdy'r Cambrian wedi’i leoli y tu ôl i Stryt y Capel, ar ochr ddeheuol yr afon. Fe'i dymchwelwyd yn 2003.

Cafodd Ardal Gadwraeth Parc Salisbury ei dynodi am y tro cyntaf yn 1996 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffin i gynnwys rhan o Stryt Earle yn 2013. [4]

Disgrifiad

golygu

Mae nifer o adeiladau hanesyddol a rhestredig yn dal i sefyll yn yr ardal gadwraeth, yn cynnwys:

  • Tŷ Oteley (Ffordd Salisbury) – tŷ trillawr Gothig Fictoraidd o dywodfaen, yn sefyll ar ochr ogleddol y ffordd, ac yn dyddio'n ôl i 1867 Credir iddo gael ei ddylunio gan y pensaer lleol JR Gummow, i'w ddefnydd ef ei hun.
  • Rhifau 1, 3 a 5 Ffordd Salisbury – teras o dair fila restredig gradd II, a'u pensaernïaeth wedi'i hysbrydoli gan yr arddull Eidalaidd. Mae eu tyrrau'n nodwedd unigryw yn y stryd.
  • Rhif 12 Allt Madeira (“Poplar Cottage”) - tŷ trillawr rhestredig gradd II gyda ffasâd Sioraidd. Mae'r tŷ yn sefyll ar gornel Allt Madeira, ger Ysgol San Silyn.
  • Ysgol San Silyn – grŵp o adeiladau ysgol Fictoraidd. Mae safle'r ysgol yn estyn ar hyd Ffordd Poplys ac Allt Madeira, bron yn cwmpasu Rhif 12 Allt y Madeira ar y gornel.
  • Capel Penybryn (rhestredig Gradd II) - ar ochr ogleddol Stryt y Capel. Mae'r capel yn un o adeiladau hynaf yr ardal gadwraeth. Ar ffasâd y capel mae modd darllen yr arysgrif Gymraeg “Penybryn – Addoldy'r Bedyddwyr”.
  • Rhifau 1, 4 a 5 Stryt y Capel - Mae rhifau 1 a 4 Stryt y Capel yn adeiladau rhestredig gradd II. Dydy Rhif 5 Stryt y Capel (drws nesaf i'r capel) ddim wedi cael ei rhestru, ond mae o ddiddordeb pensaernïol arbennig. [4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ardal Gadwraeth Parc Salisbury", Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; adalwyd 12 Gorffennaf 2023
  2. "Ardal gadwraeth Parc Salisbury, Wrecsam". Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2023.
  3. "Map Ardal Gadwraeth Parc Salisbury" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2023.
  4. 4.0 4.1 "Ardal Gadwraeth Parc Salisbury Cynllun Asesu a Rheoli Cymeriad" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2023.