Hightown, Wrecsam
Un o faestrefi dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Hightown.
Math | maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.03949°N 2.98279°W |
Cod OS | SJ3349 |
Bu rhannau gogledd-orllewinol yr ardal tuag at Eglwys San Silyn, ger Ffordd Salop, yn bentrefan ar wahân o'r enw “Wrecsam Fechan”. Yn sgil twf Wrecsam, yn y 18fed ganrif daeth y pentrefan yn rhan o'r dref fwyaf[1] ond parhaodd yr enw “Wrecsam Fechan” fel enw ar y stryd. Ar fap o 1833, defnyddiwyd yr enw "Wrexham Fechan" ar gyfer rhan o'r stryd sy'n rhedeg o ochr ddeheuol yr afon Gwenfro i fyny'r bryn i gyfeiriad Hightown (ar yr un map, mae'r enw “Salop Street” yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhan o'r stryd ar ochr arall yr afon, ger canol y dref). [2] Ar fap o 1872, defnyddiwyd yr enw "Wrexham Fechan" ar gyfer y stryd sy'n cael ei hadnabod heddiw fel “Kingmills Road” (Ffordd Melin y Brenin). [2]
Roedd gan reilffordd Wrexham & Ellesmere orsaf yn Hightown o'r enw Hightown Halt.
Tirnod pwysig yn Hightown ydy'r barics milwrol, “Hightown Barracks”. Adeiladwyd y barics yn y 1870au yn arddull yr Adfywiad Gothig. Yn 1877 symudodd y Denbighsire Militia yno o'i hen bencadlys ar Stryt y Rhaglaw (heddiw Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam). Wedyn daeth y barics yn gartref i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[3][4]
Mae gan Hightown ei ardal siopau ei hun wrth y gyffordd rhwng Ffordd Salop a Ffordd Melin y Brenin. Mae adeiladau hanesyddol yr ardal yn cynnwys tafarndai'r Green Dragon a'r Travellers' Rest, yn ogystal â Beechley House, tŷ rhestredig gradd II [2] wedi'i adeiladu yn y 18fed ganrif fel preswylfa breifat.[5]
Mae digon o dai sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn sefyll ar hyd strydoedd Hightown. Hyd at 2011, roedd yr ardal yn gartref i "Hightown Flats", pum bloc o fflatiau pum llawr.[6][7] Roedd gan y fflatiau broblemau diogelwch, a bu problemau yn yr ardal gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dymchwelwyd y fflatiau yn 2011 er mwyn ailddatblygu'r ardal gyda chefnogaeth y gymuned leol.[8][9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Irish, Sandra (1987). "Spatial patterns in the small town in the nineteenth century - a case study of Wrexham" (PDF). Aber.ac.uk. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Salisbury Park Conservation Area Assessment" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2022.
- ↑ Brennan, Shane (2017-02-04). "The army has 'clarified' its plans for one of its North Wales barracks". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-30.
- ↑ Idris Jones, John (2018). Secret Wrexham. Amberley Publishing. ISBN 9781445677019.
- ↑ "Beechley House, Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-28. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2022.
- ↑ "Demolition of Hightown flats in Wrexham going to plan". The Leader (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-30.
- ↑ WalesOnline (2011-06-22). "Wrexham's Hightown flats finally demolished". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-30.
- ↑ "Wrexham's landmark Hightown flats to be demolished". BBC News (yn Saesneg). 2011-01-05. Cyrchwyd 2022-04-30.
- ↑ Moffitt, Dominic (2021-10-16). "Stunning images show lost Hightown flats in Wrexham through the ages". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-30.