James Reynolds Gummow

pensaer o Gymro

Pensaer ac adeiladwr o Gymro o'r 19eg ganrif, a gweithiodd yn enwedig yn Wrecsam a dyluniodd nifer o adeiladau pwysig o gwmpas y dref, oedd James Reynolds Gummow (18261877).

James Reynolds Gummow
Ganwyd1826 Edit this on Wikidata
Bu farw1877 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata

Cafodd James Reynolds Gummow ei eni yn Wrecsam ym 1826, i Michael Gummow a Sarah Roberts. Daeth JR Gummow o deulu o benseiri ac adeiladwyr – cafodd ei dad, Michael Gummow, ei benodi fel syrfëwr bwrdeistref cyntaf Wrecsam. [1] Roedd Michael Gummow yn nai i Benjamin Gummow, [1] pensaer yn wreiddiol o Gernyw a gwnaeth bron ei holl waith i Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay, Rhiwabon, ac i'r teulu Grosvenor of Neuadd Eaton, ger Caer.

Dyluniodd JR Gummow nifer o adeiladau pwysig yn Wrecsam, yn enwedig tai preifat ar gyfer dosbarth canol cynyddol y dref. Mae llawer o'r adeiladau hyn yn dal i sefyll, yn bennaf yn ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor i'r gorllewin o ganol y ddinas. Mae enghreifftiau o adeiladau a ddyluniwyd gan JR Gummow yn Wrecsam yn cynnwys: Grosvenor Lodge, Rhif 1 Ffordd Grosvenor, [2] Abbotsfield, Ffordd Rhosddu, [2] Tŷ’r Esgob, Ffordd Sonlli. [3] Yn ôl pob tebyg, Gummow oedd yn gyfrifol hefyd ar gyfer Rhif 2 Ffordd Grosvenor, Plas Gwilym, Rhif 3 Ffordd y Llwyni [4] a Oteley House, Ffordd Salisbury. [5]

Ym 1856 ceisiodd Gummow am fethdaliad. Ym 1874 cyhoedded e lyfr o'r enw 'Hints on Home Building', a oedd yn cynnwys manylion o nifer o'i adeiladau. [1]

Bu farw ym 1877.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Hubbard, Edward (1986). The Buildings of Wales - Clwyd (Denbighshire and Flintshire). Penguin Books - University of Wales Press. tt. p. 67.CS1 maint: extra text (link)
  2. 2.0 2.1 "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
  3. "The Bishops House, Offa, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
  4. "Plas Gwilym, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
  5. "Ardal Gadwraeth Parc Salisbury Cynllun Asesu a Rheoli Cymeriad" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.