Ardal Wyre Forest

ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Wyre Forest.

Ardal Wyre Forest
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Gaerwrangon
PrifddinasKidderminster Edit this on Wikidata
Poblogaeth101,062 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerwrangon
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd195.4038 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.389°N 2.255°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000239 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Wyre Forest District Council Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am yr ardal llywodraeth leol yn Swydd Gaerwrangon yw hon. Am yr ardal yn Swydd Gaerhirfryn gweler Bwrdeistref Wyre.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 195.4 km², gyda 101,062 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cynnwys rhan ogleddol ganolog Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Malvern Hills, Ardal Wychavon ac Ardal Bromsgrove, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig a Swydd Stafford.

Ardal Wyre Forest yn Swydd Gaerwrangon

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o hen awdurdodau lleol, sef bwrdeistrefi Bewdley a Kidderminster ynghyd ag Ardal Wledig Stourport-on-Severn ac Ardal Wledig Kidderminster.

Ers 2011 mae pencadlys yr awdurdod yn nhref Kidderminster. Cyn hynny fe'i lleolwyd yn nhref Stourport-on-Severn. Bewdley yw'r drydedd dref bwysig yr ardal.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020

Gweler hefyd golygu