Henry William Paget
person milwrol, gwleidydd (1768-1854)
Ardalydd 1af Môn oedd Henry William Paget (17 Mai 1768 - 29 Ebrill 1854). Codwyd cofgolofn iddo ger Llanfairpwllgwyngyll yn 1816. Ef fu'n gyfrifol am y gwŷr meirch ym mrwydr Waterloo lle cafodd ei glwyfo gan golli un goes. Yn ogystal â bod yn Ardalydd Môn, bu'n Arglwydd-Raglaw Iwerddon am gyfnod.
Henry William Paget | |
---|---|
Henry William Paget, Ardalydd cyntaf Môn | |
Ganwyd | 17 Mai 1768 Llundain |
Bu farw | 29 Ebrill 1854 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol, bretter |
Swydd | Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Tad | Henry Paget |
Mam | Jane Champagné |
Priod | Caroline Campbell, Charlotte Paget |
Plant | Clarence Paget, Alfred Paget, Mary Paget, Henry Paget, William Paget, George Augustus Frederick Paget, Augusta Paget, Caroline Paget, Jane Paget, Arthur Paget, Georgina Paget, Agnes Paget, Emily Paget, Adelaide Cadogan |
Perthnasau | George Stewart, 8ed Iarll Galloway, John Cole, 2il Iarll Enniskillen, Thomas Graves, 2il Farwn Graves, Charles Gordon-Lennox, Francis Conyngham, Edward Crofton, 2nd Baron Crofton, Arthur Chichester, 1st Baron Templemore, George Byng, 2nd Earl of Strafford, John Townshend, 1st Earl Sydney, John Montagu, 7th Earl of Sandwich, Frederick William Cadogan |
Llinach | Teulu Paget, Plas Newydd |
Gwobr/au | Knight of the Order of Maria Theresa, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Cadlywydd Urdd Milwrol William, Order of St. George, 2nd class, Urdd y Gardas, Waterloo Medal |
Canodd Y Bardd Cocos ambell bennill iddo:
Y Marcwis of Anglesey a gollodd ei glun,
Pe gollith o'r llall fydd gyno fo run!
neu, efallai'r pennill enwocaf:
Y Marcwis of Anglesey, a'i gleddyf yn ei law:
Pe bai'n bwrw glaw, fasa fo ddim yn medru newid llaw!
Dywedir iddo gael affêr gyda gwraig brawd Dug Wellington, sef yr Arglwyddes Charlotte Wellesley.