Arfon Haines Davies
Darlledwr o Gymro yw Arfon Haines Davies (ganwyd Mehefin 1948)[1]. Cychwynnodd ei yrfa fel cyhoeddwr rhaglenni ar gyfer HTV Cymru (ITV Cymru erbyn hyn) yn y 1970au.
Arfon Haines Davies | |
---|---|
Ganwyd | Mehefin 1948 Caernarfon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyhoeddwyr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Arfon yng Nghaernarfon yn fab i weinidog. Symudodd y teulu i Aberystwyth a mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Ramadeg Ardwyn. Symudodd eto i Dreffynnon a cwblhaodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Glan Clwyd. Hyfforddodd yng Ngholeg y Drindod ac aeth i weithio fel athro ym Mrynffordd, sir y Fflint. Cafodd secondiad o’r ysgol i fynychu’r Central School of Speech and Drama yn Llundain ar yr amod y byddai’n dychwelyd i ddysgu wedyn.
Gyrfa
golyguCafodd swydd cyhoeddwr gyda HTV yn 1975 tra dal yn y coleg felly ni ddychwelodd i ddysgu. Roedd ei chwaer Catherine wedi gweld hysbyseb am y swydd mewn cylchgrawn Gymraeg ac wedi ei annog i wneud cais.[2] Parhaodd yn y swydd am yr 18 mlynedd nesaf.
Yn ogystal, cyflwynodd amrywiaeth o sioeau teledu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Yn yr 1980au cyflwynodd Sêr, Seren Dau, Jam a Telethon ITV ymysg eraill. Daeth Arfon yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd ITV.[3] Parhaodd i gyflwyno ar ITV Cymru, gan defnyddio archif helaeth y sianel, mewn rhaglenni fel Remember a Never To Be Forgotten.[4]
Ar S4C, cyflwynodd rhaglenni fel Pacio, Pen-blwydd Hapus a cymerodd ran mewn cyfres o Y Briodas Fawr. Yn 2000, cyflwynodd y gyfres Cledrau Coll yn edrych ar hanes rhai o reilffyrdd Cymru.
Mae hefyd yn westeiwr ac yn arwerthwr sy'n arbennigo mewn gwaith celf.[5]
Anrhydeddau
golyguFe'i anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 am ei gyfraniad i iaith a diwylliant Cymru.[6]
Bywyd personol
golyguMae'n briod ac Angela ac mae ganddynt ferch, Catrin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Arfon Haines-Davies". Companies House. Cyrchwyd 9 May 2018.
- ↑ "My 30 years as the face of TV". Daily Post. North Wales. 9 Gorffennaf 2005. Cyrchwyd 9 Mai 2018.
- ↑ Mike Griffiths (12 Ionawr 2018). "HTV legends Arfon Haines Davies and Nicola Heywood Thomas look back on their favourite moments". ITV News. Cyrchwyd 9 May 2018.
- ↑ "An insight into TV presenter Arfon Haines Davies". Wales Online. 12 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 9 Mai 2018.
- ↑ Sir Kyffin Williams oil sells for Welsh record £50,000 in inaugural Welsh Sale of Rogers Jones at new Llandough home , Penarth Times, 9 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd ar 1 Awst 2018.
- ↑ Eryl Crump (19 May 2014). "National Eisteddfod: Champions of Wales to be honoured by the Gorsedd of Bards". Daily Post. North Wales. Cyrchwyd 9 May 2018.