Cymru ar hyd ei Glannau
Cyfrol mewn gair a llun o arfordir Cymru gan Dei Tomos a Jeremy Moore yw Cymru ar hyd ei Glannau. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2012. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Dei Tomos a Jeremy Moore |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Twristiaeth yng Nghymru |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781848512436 |
Disgrifiad byr
golyguDathliad mewn gair a llun o arfordir trawiadol Cymru. Cyhoeddir i gyd-fynd ag agoriad swyddogol Llwybr yr Arfordir yn 2012.
Mae'r gyfrol yn disgrifio arfordir Cymru: o Bont Hafren i bont Sir y Fflint. Mae’r daith o 870 milltir wedi ei rhannu’n ddeg adran, gyda phennod i bob un. Cyfuniad sydd yma o sylwebaeth Dei Tomos a lluniau Jeremy Moore, y ffotograffydd. Ar ddiwedd y llyfr ceir map yn amlinellu’r daith o bennod i bennod.
Mae’r awdur yn sgwrsio â’r trigolion ar y ffordd, gan hel atgofion am enwogion a hynodrwydd y gwahanol ardaloedd. Mae’r tudalennau’n frith o sylwadau am gartrefi enwogion, cestyll, goleudai, ogofâu, diwydiant a diwylliant.
Wrth ddilyn arfordir Mynwy a Morgannwg cawn gyfarfod â David Davies a gododd y dociau yn y Barri, yn ogystal â chlywed am Edgar Evans o Rosili, ac am ei daith drychinebus i Begwn y De efo Scott. Ar draethau Sir Gaerfyrddin y glaniodd Amelia Earhart ar ôl hedfan dros Fôr Iwerydd yn 1928, ac ar dywod eang Pentywyn y bu’r ymryson am gyflymder uchaf ar y tir rhwng Malcolm Campbell a’r Cymro, Parry-Thomas, yn ei fodur Babs. Awn heibio i gynefin Dylan Thomas ac ymlaen i Sir Benfro, ac yn Ninbych-y-pysgod ceir disgrifiad o Robert Recorde, mathemategydd, ac un o blant y dref a ddyfeisiodd yr arwydd hafal (=). Ac felly ymlaen – o sir i sir, o glogwyn i glogwyn ac o draeth i draeth. Galw heibio i rai o’r ynysoedd i fwynhau’r adar a’r blodau, rhyfeddu at y diwydiant yn Aberdaugleddau, cofio am gampau llenyddol teulu’r Cilie, a sefyllian peth uwchben Pwllderi. Canmol trefi Aberystwyth a Llandudno, ac wfftio Fairbourne yn ddidrugaredd – heb sôn am erchylltra’r carafannau i’r dwyrain o Fae Colwyn! Ymhlyg yn hyn i gyd ceir lluniau crefftus Jeremy Moore – tirluniau o arfordir Ceredigion ac Ynys Môn, portreadau manwl o’r frân goesgoch a’r titw barfog, pobl wrth eu gwaith ac yn hamddena, a'r llun godidog o’r bonion coed ar y traeth yn Ynys-las.
Mae gennym ddau ddarlun yma – un mewn geiriau a’r llall drwy lygad y camera.
Mae'r uchod yn addasiad o adolygiad o'r gyfrol, fel y'i gwelir ar wefan Gwales yma.
Adolygiad
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013