Aroglau
Aroglau (hefyd: oglau, sawr, gwynt ac ar lafar yn y gogledd, ogla) yw'r hyn a ellir ei arogleuo.[1] Fel arfer, sylweddau organic sy'n ffurfio aroglau e.e. bwyd, rhech, blodau neu dail gwartheg) ond ceir hefyd cyfansoddion di-garbon, megis hydrogen swlffid ac amonia.
Math | ffenomen ffisegol |
---|---|
Rhan o | arogleuo |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caiff aroglau eu creu gan un neu ragor o anweddolion (cemegolion cyfansawdd), fel arfer o grynodiad isel, a'u 'clywed' neu eu 'gwynto' gan anifail neu berson drwy ei synnwyr arogleuo.
Ceir dau fath o arogl: arogl da ('sent') ac arogl drwg. Mae rhai o'r geiriau sy'n disgrifio'r arogleuon da, neu dderbyniol yn ymwneud â bwyd, blodau ('persawrus') neu bersawr ('perarogleuon', 'mwsg', fragrance yn Ffrangeg). Ymhlith y geiriau Cymraeg am arogl drwg mae: 'hwmo' (bwyd wedi pydru), 'drewdod' a 'drycsawr ' (cyffredinol), 'miniog' a 'siarp' (arogl fineg), 'camfforaidd' (ogla peli lladd gwyfynod), oroglau 'mygu' neu 'fyglyd' (reek ond gall hefyd fod yn arogl da mewn cogionio). Weithiau gall yr arogl fod yn ddrwg neu'n dda i wahanol bobl ac ar wahanol adegau e.e. gall arogl chwys ffres fod yn dderbyniol, ond ymhen amser, oherwydd y meicrobau sydd yn cynyddu ynddo, gall fod yn ddrewdod annerbyniol.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 4 Mawrth 2018.
- ↑ de march, Claire A.; Ryu, sangEun; Sicard, Gilles; Moon, Cheil; Golebiowski, Jérôme (September 2015). "Structure–odour relationships reviewed in the postgenomic era". Flavour and Fragrance Journal 30 (5): 342–361. doi:10.1002/ffj.3249.