Arrano beltza
Yr Arrano Beltza ("Eryr Du" mewn Basgeg) yw un o symbolau Cenedlaetholdeb Basgaidd, lle mae'n cynrychioli Gwlad y Basg draddodiadol y saith talaith (Euskal Herria).
Seiliwyd y faner ar sêl Sancho III, brenin Teyrnas Navarra a'i olynwyr, neu ar sêl Sancho VII y Cryf (1194-1234).