Arthur Probert
Roedd Arthur Reginald Probert (30 Medi 1909 – 14 Chwefror 1975) yn wleidydd Llafur Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Aberdâr.[1]
Arthur Probert | |
---|---|
Ganwyd | 30 Medi 1907 |
Bu farw | 14 Chwefror 1975 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Proberts ym 1907 yn Aberdâr yn fab i Albert John Probert, tafarnwr. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr.
Priododd Muriel Taylor ym 1938, yr oedd hi yn ferch i William Taylor o Abercwmboi a chawsant dwy ferch.
Gyrfa
golyguBu'n gweithio fel swyddog atgyweirio ystadau tai i Gyngor Dinesig Aberdâr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol a bu'n gwasanaethu yn yr Alban, yr Almaen a Denmarc.
Gyrfa Gwleidyddol
golyguRoedd Probert yn aelod gweithgar o Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol a gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyngor Llafur Aberdâr. Wedi marwolaeth David Emlyn Thomas AS Aberdâr ym 1954, safodd Probert yn Ymgeisydd y Blaid Lafur mewn isetholiad ym mis Hydref yr un flwyddyn gan gael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin. Cadwodd afael ar y sedd hon hyd ei ymddeoliad adeg Etholiad Cyffredinol, Chwefror 1974.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Emlyn Thomas |
Aelod Seneddol dros Aberdâr 1954 – 1974 |
Olynydd: Ioan Evans |