David Emlyn Thomas
Roedd David Emlyn Thomas (16 Medi 1892 – 20 Mehefin 1954) yn wleidydd Prydeinig. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur dros Aberdâr o 1946 hyd 1954. Ef oedd y cyn glöwr olaf i gynrychioli'r etholaeth.
David Emlyn Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 16 Medi 1892, 1892 Maesteg |
Bu farw | 20 Mehefin 1954 Trecynon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd Cynnar
golyguCafodd Thomas ei eni ym Maesteg yn un o ddeg o blant James Thomas a Mary ei wraig. Roedd y teulu yn hanu o Ddyfed y tad o Gilgerran a'r fam o Gastellnewydd Emlyn.[1]
Dychwelodd y teulu am gyfnod i Aberteifi a Chilgerran lle derbyniodd Thomas ei addysg gynnar. Yn ddiweddarach dychwelodd y teulu i Faesteg a bu Thomas yn mynychu'r ysgol yno am gyfnod. Ymadawodd a'r ysgol yn 13 oed i weithio ym mhwll glo'r Oakwood fel clerc. Wrth weithio yn y maes glo fu'n mynychu dosbarthiadau nos i ddysgu teipio a llaw-fer.[2]
Gyrfa
golyguYm 1919 penodwyd Thomas yn swyddog llawn amser yn swyddfa Ffederasiwn Glowyr De Cymru ym Maesteg o dan Vernon Hartshorn, AS ac Evan Williams, YH. Ymunodd Thomas â'r Blaid Lafur ym 1919 ac roedd yn ysgrifennydd pwyllgor ward y Blaid Lafur ym Maesteg.
Pan gaewyd swyddfa Ffederasiwn Glowyr De Cymru Maesteg ym 1934 cafodd Thomas ei drosglwyddo i weithio yn Swyddfa'r Ffederasiwn yn Aberdâr fel Ysgrifennydd Ardal. Bu hefyd yn cyflawni dyletswyddau Asiant y Glowyr, Noah Ablett, a oedd yn ddifrifol wael. Ar farwolaeth Ablett, cafodd Thomas ei ethol yn Asiant y Glowyr, gan barhau yn y swydd hyd 1946.
Y tu allan i'r lle gwaith yr oedd Thomas yn aelod gweithgar ac yn ddiacon yng Nghapel Annibynnol Ebeneser, Trecynon.[3]
Gyrfa Seneddol
golyguYm 1946 cafodd George Henry Hall AS Aberdâr ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi a dewiswyd Thomas i sefyll fel yr ymgeisydd Llafur yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, enillodd y sedd gyda mwyafrif mawr a llwyddodd i ddal gafael ar y sedd hyd ei farwolaeth ym 1954.
Roedd yn aelod o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin, ac ym 1949-50 bu'n arweinydd y Grŵp Seneddol Llafur Cymreig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 RG14; Darn: 32538; Rhif: 98. 2 Ward Street Maesteg
- ↑ Y Bywgraffiadur ar-lein THOMAS, DAVID EMLYN http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-THOM-EML-1892.html adalwyd 13 Rhag 2014
- ↑ Jones, Alan Vernon (2004). Chapels of the Cynon Valley. Cynon Valley Historical Society. ISBN 0953107612
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Henry Hall |
Aelod Seneddol dros Aberdâr 1946 – 1954 |
Olynydd: Arthur Probert |