Abercwmboi

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf yw Abercwmboi. Saif ar y ffordd B4275, i'r de-ddwyrain o dref Aberdâr, ac ar lan Afon Cynon.

Abercwmboi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6897°N 3.4125°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]

Tarddiad yr enw golygu

Anaml ceir cyfuno aber a cwm mewn enw lle. Yn ôl Gwynedd O. Pierce, mae'n debyg taw nant o'r enw Confoe yw ail elfen yr enw a throdd dros amser yn "cwmboi", gyda'r acen ar y sillaf olaf. Mae'n bosib hefyd nad yw'r elfen "aber" yn cyfeirio at y man lle rhed y nant i Afon Cynon, ond yn hytrach mewn ystyr ffrwd neu nant yn syml. Mae'r ystyr hon o "aber" mewn enwau lleoedd yn gyffredin yn y gogledd, ond mae'n bosib taw Abercwmboi yw un o'r ychydig o enghreifftiau yn y de.[3]

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 7.