Agor y brif ddewislen

Roedd Ioan Lyonel Evans (10 Gorffennaf 192710 Chwefror 1984) yn wleidydd Llafur a Chydweithredol Cymreig ac yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1970 dros Firmingham Yardley ac yna dros Aberdâr a Chwm Cynon rhwng 1974 a'i marwolaeth.[1]

Ioan Evans
Ganwyd 10 Gorffennaf 1927 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Chwefror 1984 Edit this on Wikidata (56 oed)
Hillingdon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Substitute of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd Evans yn Llanelli, yn fab i Evan Evans adeiladydd a goruchwyliwr gwaith

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Prifysgol Cymru, Abertawe

Ym 1949 priododd â Maria Griffiths; bu iddynt un mab ac un ferch.

GyrfaGolygu

Hyfforddwyd Evans fel clerc ym Manc y Midland rhwng 1943 a 1945. Ym 1945, wedi cyrraedd 18 oed ymunodd a'r fyddin i gyflawni ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol gorfodol gan ddychwelyd i fywyd sifil ym 1948. Rhwng 1948 a 1950 bu'n gweithio fel darlithydd i Mudiad Addysg y Gweithwyr a'r Coleg Llafur Cenedlaethol.

Rhwng ei dau gyfnod yn Nhŷ'r Cyffredin bu Evans yn gweithio fel cyfarwyddwr Y Gronfa Amddiffyn ac Awyr Rhyngwladol.[2]

Gyrfa WleidyddolGolygu

Gwasanaethodd Evans fel cadeirydd Cynghrair Ieuenctid Llafur o 1948 hyd at 1950, bu'n ysgrifennydd Cangen Penbedw o'r Blaid Gydweithredol rhwng 1950 a 1953 a changen Birmingham o'r blaid rhwng 1953 a 1964. Bu'n asiant y Blaid Lafur ym Mirmingham yn ystod etholiadau cyffredinol 1955 a 1959.

Safodd fel ymgeisydd Llafur a'r Blaid Cydweithredol yn etholaeth Birmingham Yardley yn etholiad 1964 gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 169 pleidlais, daliodd ei afael ar y sedd yn etholiad 1966 gan gynyddu ei fwyafrif i 5,795. Yn etholiad 1970 collodd y sedd i'r Ceidwadwyr trwy fod yn brin o 120 pleidlais:

Etholiad cyffredinol 1964: Etholaeth Birmingham Yardley
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Ioan Lyonel Evans 22,788 50.19
Ceidwadwyr Leonard Harry Cleaver 22,619 49.81
Mwyafrif 169 0.37
Y nifer a bleidleisiodd 77.05
Llafur yn cipio etholaeth newydd
Etholiad cyffredinol 1966: Etholaeth Birmingham Yardley
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Ioan Lyonel Evans 25,568 56.35
Ceidwadwyr Leonard Harry Cleaver 19,809 43.65
Mwyafrif 5,759 12.69
Y nifer a bleidleisiodd 77.62
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1970: Etholaeth Birmingham Yardley
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Derek Michael Coombs 21,827 50.14
Llafur Ioan Lyonel Evans 21,707 49.86
Mwyafrif 120 0.28
Y nifer a bleidleisiodd 69.70
Ceidwadwyr yn cipio etholaeth newydd

Wedi ymddeoliad Arthur Probert o'r Senedd yn Chwefror 1974 dewiswyd Evans yn olynydd iddo, llwyddodd i gadw'r sedd i Lafur hyd ei ddiddymiad ar adeg etholiad cyffredinol 1983

Ym 1983 safodd yn etholaeth newydd Cwm Cynon gan gadw'r sedd hyd ei farwolaeth ym 1984.

Yn ystod ei ddau gyfnod yn y senedd ddaliodd nifer o swyddi yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid gan gynnwys:

  • Is gadeirydd grŵp ASau Llafur gorllewin Canolbarth Lloegr
  • 1965 - 1966 Ysgrifennydd Preifat i'r Postfeist Cyffredinol (Tony Benn)
  • 1966 - 1968 Chwip cynorthwyol y Llywodraeth
  • 1968 - 1970 Prif Chwip y Llywodraeth a Distain Gosgordd ei Mawrhydi
  • Dirpwy i Gynulliad Ymgynghorol Cyngor Ewrop
  • 1974 - 1984 Aelod o grŵp anableddau'r Blaid Seneddol Llafur
  • 1974 -1984 Aelod o grŵp prisiau ac amddiffyn y prynwr y Blaid Seneddol Llafur
  • 1974 - 1984 Aelod o grŵp masnach y Blaid Seneddol Llafur
  • 1981 - 1984 Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol ar Faterion Rhyngwladol
  • 1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r Gymuned Ewropeaidd [3]

Yn dilyn etholiad cyffredinol mis Hydref 1974 cafodd cynnig i wasanaethu fel ysgrifennydd preifat i John Morris, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu cynulliad datganoledig i Gymru, polisi roedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979. Yn ystod refferendwm datganoli 1979 fe fu'n un o'r gang o chwech o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli.

MarwolaethGolygu

Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Ruislip, Middlesex yn 56 mlwydd oed [4] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sant Elfan, Aberdâr.

CyfeiriadauGolygu