Arwydd (mathemateg)

Defnyddir y symbolau plws a minws i ddangos arwydd rhif. Tarddodd y termau hyn o nodweddion pob rhif real, a ellir eu dosbarthu'n bositif, yn negatif neu'n sero. Mae'r sero'n hyblyg iawn, a gall newid o wlad i wlad: yn bositif, yn negatif, neu ddim yn unrhyw un o'r ddau. Os na chrybwyllir yn benodol, mae'r erthygl hon yn cydymffurfio â'r confensiwn olaf - nad yw sero'n bositif nac yn negatif. Mewn rhai cyd-destunau, mae'n gwneud synnwyr ystyried sero yn arwydd, e.e., mewn cynrychioliadau o bwyntiau arnawf o rifau real o fewn cyfrifiadureg.

Arwydd
Enghraifft o'r canlynolcysyniad, trichotomy Edit this on Wikidata
Mathnodwedd Edit this on Wikidata
Rhan omathemateg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrhif positif, rhif negatif, 0 Edit this on Wikidata
Y ddau arwydd mathemategol a ddefnyddir i ddangos a yw rhif yn negatif neu'n bositif.

Mewn nodiant rhifol cyffredin (sy'n cael ei ddefnyddio mewn rhifyddeg a mannau eraill), mae arwydd rhif yn aml yn cael ei wneud yn glir trwy osod symbol adio (plws) neu dynnu (minws) cyn y rhif. Er enghraifft, mae +3 yn dynodi "tri positif", a -3 yn dynodi "tri negatif". Heb gyd-destun penodol, neu pan na roddir arwydd pendant, dehonglir y rhif fel rhif cadarnhaol, positif. Mae'r nodiant hwn wedi sefydlu perthynas gref rhwng yr arwydd minws "-" gyda rhifau negyddol, ac, yn yr un modd, mae'r arwydd plws "+" yn gysylltiedig â phositifrwydd.

Pan nad yw sero'n bositif nac yn negatif, gellir dweud fod :

  • rhif yn bositif pan fo'n fwy na sero.
  • rhif yn hollol bositif (strictly positive) fo'n fwy na sero.
  • rhif yn annegatif pan fo'n fwyn na, neu'n hafal i sero.
  • rhif yn negatif pan fo'n llai na sero.
  • rhif yn hollol negatif (strictly negative) pan fo'n llai na sero.
  • rhif yn amhositif pan fo'n llai na, neu'n hafal i sero.

Mae gwerth absoliwt rhif real bob tro yn annegatif, ond nid yw hynny'n golygui ei fod yn bositif.

Ystyron eraill golygu

Gall gwefr drydanol fod yn bositif neu'n negatif.

Cyfeiriadau golygu