Arwyrain
Genre o ganu mawl yw arwyrain a geir yng ngwaith Beirdd y Tywysogion. Awdlau yw'r awyreiniau i gyd.
Ystyr y gair Cymraeg Canol arwyrain yw 'dyrchafu' neu 'estyn'. Mae elfen olaf y ffurf rediadol arwyddwyreaf yn tarddu o'r gwreiddyn Celteg *reg- sy'n cytras â'r gair Lladin rex ('brenin').[1] Moliant arbennig i frenin, sy'n ei ddyrchafu wrth ei glodfori yw 'arwyrain' felly. Pwysleisir ach urddasol y brenin. Elfen amlwg arall yw ymffrost y bardd yn ei allu barddol ac at y berthynas rhyngddo a'i noddwr brenhinol. Mae Morfydd E. Owen yn nodi fod cerddi tebyg i'w cael yn Iwerddon a gysylltir â seremoni urddo'r brenin, sef 'estyn' y frenhiniaeth iddo. Awgryma'r dystiolaeth mai canu defodol ar achlysur urddo brenin oedd y canu Cymraeg hefyd.[2]
Canu hynafol oedd y canu arwyrain hyd yn oed yn y 12g, ac ymddengys i'r ffurf golli ei harwyddocâd erbyn y 13g. Cedwir rhyw naw cerdd wrth y teitl 'arwyrain' yn Llawysgrif Hendregadredd, i gyd namyn un o'r 12g, a cheir yn ogystal tair cerdd o'r 13g sy'n dechrau gyda'r gair 'arddwyreaf'.[3] Y cerddi gyda'r teitl 'arwyrain' arnynt yw:
- Gwalchmai:
- 'Arwyrain Madog ap Maredudd'
- 'Arwyrain Owain Gwynedd'
- Cynddelw Brydydd Mawr:
- 'Arwyrain Madog ap Maredudd'
- 'Arwyrain Owain ap Madog'
- 'Arwyrain Owain Gwynedd' (tair cerdd wahanol efallai)
- 'Arwyrain yr Arglwydd Rhys'
- Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch):
- 'Arwyrain Rhodri ab Owain' (dwy gerdd wahanol efallai)
- 'Arywrain Llywelyn fab Iorwerth'