Agor y brif ddewislen

Llawysgrif Hendregadredd

llyfr (gwaith)

Llawysgrif Hendregadredd yw un o'r llawysgrifau Cymreig cynharaf a phwysicaf i oroesi ac un o'n dwy brif ffynhonnell am waith Beirdd y Tywysogion, ynghyd â Llyfr Coch Hergest. Mae'r brif law yn dyddio o tua 1300-1310. Mae'n llawysgrif ar femrwn sy'n cynnwys 126 o dudalennau ac yn mesur 8.2 x 6 modfedd. Yn ddiweddarach, tua'r 1330au, ychwanegwyd rhai testunau o waith y cywyddwyr, gan gynnwys rhai o gywyddau Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg. Cred rhai ysgolheigion mai Dafydd ei hun a ysgrifennodd y testunau hynny.

Hendregadredd Manuscript-small.jpg
Data cyffredinol
Teitl Llawysgrif Hendregadredd Edit this on Wikidata
Iaith Cymraeg Edit this on Wikidata
Tudalennau 126 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1282 Edit this on Wikidata
Lleoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Llyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Hanes y llawysgrifGolygu

Mae hanes y llawysgrif yn ddiddorol. Ar ddechrau'r 14g roedd ym meddiant Ieuan Llwyd ap Ieuan ap Gruffudd Foel o Barcrydderch ger Llangeitho. Tua chanol y 16g roedd ym meddiant yr achyddwr Gruffudd Dwnn ac yna aeth i feddiant y bardd Wiliam Llŷn (tua 1580). Cafodd ei lle yn llyfrgell enwog yr hynafiaethydd Robert Vaughan yn Hengwrt lle gwnaeth John Davies o Fallwyd gopi ohono yn 1617: y copi hwnnw sy'n sail i destun adran y Gogynfeirdd yn y Myvyrian Archaiology of Wales. Aeth y llawysgrif o'r golwg yn y 19g, a thybiwyd ei bod ar goll, ond yn 1910 fe'i darganfuwyd gan John Jones (Myrddin Fardd) ac Edward Breeze mewn hen wardrob ym mhlasty Hendregadredd, ger Cricieth. Cafodd gan aelodau o deulu Gregynog pan roddodd ei berchennog John Ignatius Williams o Hendregadredd hi mewn arwerthiant yn Llundain. Heddiw mae'n ddiogel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Rhai o'r beirdd y ceir testunau o'u gwaith yn y llawysgrifGolygu

LlyfryddiaethGolygu

Dolen allanolGolygu