Asa Koma
Safle archaeolegol yn Jibwti yw Asa Koma (sy'n golygu "Bryn Coch").
Enghraifft o'r canlynol | safle archaeolegol |
---|---|
Arolwg
golyguMae Asa Koma yn ardal llyn mewndirol ar Wastadedd Gobaad. Mae crochenwaith sy'n dyddio o'r cyfnod cyn yr 2il fileniwm CC, sef yn Oes Newydd y Cerrig, wedi ei darganfod ar y safle. Nodweddir y crochenwaith hwnnw gan batrymau geometrig sy'n debyg i'r patrymau a geir ar grochenwaith Cyfnod 1 y Diwylliant Sabir o Ma'layba yn Ne Arabia.[1] Yn ogystal, darganfuwyd yno waith ceramig tebyg i grochenwaith o Sihi ar arfordir Sawdi Arabia a Subr ger arfordir Iemen.[2]
Mae esgyrn gwartheg cyrn-hir wedi eu darganfod yn Asa Koma hefyd, sy'n awgrymu bu gwartheg dof yn bresennol yn yr ardal hon o Jibwti tua 3,500 mlynedd yn ôl.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Walter Raunig, Steffen Wenig (2005). Afrikas Horn. Otto Harrassowitz Verlag. t. 439. ISBN 3447051752. Cyrchwyd 7 Medi 2014.
- ↑ Istituto universitario orientale (Napoli, Italia) (1998). Annali, Volume 58. Edizione universitarie. t. 527. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
- ↑ Connah, Graham (2004). Forgotten Africa: An Introduction to Its Archaeology. Routledge. t. 46. ISBN 1134403038. Cyrchwyd 7 Medi 2014.