Arabia
Gorynys yw Arabia (Arabeg: شبه الجزيرة العربية, neu جزيرة العرب) yn Ne-orllewin Asia. Fe'i lleolir rhwng Affrica ac Asia, yn y Dwyrain Canol. Mae anialwch yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohoni. Lleolir ffynonellau enfawr o olew crai a nwy naturiol yma. Mae'r gwledydd canlynol yn rhan o Arabia:
- Bahrein (ynys cyfagos)
- Ciwait
- Oman
- Qatar
- Sawdi Arabia
- Emiradau Arabaidd Unedig
- Iemen
Enghraifft o'r canlynol | rhanbarth |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |