Arlunydd a cherflunydd o Ddaniad oedd Asger Jorn (3 Mawrth 19141 Mai 1973).

Asger Jorn
FfugenwAsger Jorn Edit this on Wikidata
GanwydAsger Oluf Jørgensen Edit this on Wikidata
3 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata
Vejrum Parish Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1973 Edit this on Wikidata
Aarhus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDenmarc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, dylunydd graffig, seramegydd, damcaniaethwr celf, lithograffydd, drafftsmon, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStalingrad Edit this on Wikidata
MudiadCOBRA, Internationale situationniste Edit this on Wikidata

Ganwyd Asger Oluf Jörgensen yn Vejrum, Denmarc, ac astudiasai ym Mharis dan arweiniad Fernand Léger. Cyd-sefydlodd y mudiad COBRA ym 1948 gyda Karel Appel, Constant, Corneille, Christian Dotremont, a Joseph Noiret. Dechreuodd gweithio â serameg ym 1953, ac yn y 1950au a'r 1960au roedd yn gynhyrchiol ym meysydd paentio, gludwaith, darlunio llyfrau, argraffiadau, arlunio, tapestrïau, murluniau, a cherfluniaeth.[1]

Sefydlodd y Mudiad Rhyngwladol dros Bauhaus Dychmygiadol (MIBI), ac o hynny datblygodd yr Internationale situationniste ym 1957.[2] O 1966 hyd ei farwolaeth, canolbwyntiodd Jorn ar baentio ag olew, gan deithio i Giwba, Lloegr, yr Alban, yr Unol Daleithiau, ac Asia.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Asger Jorn. Amgueddfa Solomon R. Guggenheim. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2012.
  2. (Saesneg) Asger Jorn (Vejrum, 1914 - Aarhus, 1973). Oriel Gelfyddyd Jaski. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2012.

Dolen allanol golygu