Asid wrig
Cyfansoddyn organig ydy asid wrig neu asid iwrig (Saesneg: uric asid) wedi ei wneud allan o garbon, nitrogen, ocsigen a hydrogen a chanddo isfformiwla o: C5H4N4O3.
BiolegGolygu
Mewn bodau dynol a theulu'r epaod, asid iwric ydy diwedd y broses o ocsideiddio (neu dorri i lawr) y piwrin y metaboledd, gan wedyn ei ysgarthu yn yr wrin (neu biso). Gwelir ar unwaith fod cysylltiad rhwng y ddau air: wrin a wrig. Yn y rhan fwyaf o anifeiliaid, fodd bynnag, mae'r ensym wricas (uricase) yn ocsideiddio'r asid wrig ymhellach fyth gan ei droi'n allantoin.[1]
Asid wrig uchelGolygu
GowtGolygu
Math o wynegon (neu arthritis) ydy gowt sy'n cael ei achosi gan ormod o asid wrig.
Syndrom Lesch-NyhanGolygu
Credir fod yr afiechyd prin hwn yn etifeddol, ond mae'n ymwneud hefyd gyda gormod o asid wrig yn y corff.
Afiechydon cardiofasgiwlarGolygu
er fod yr asid hwn yn gweithredu fel gwrthocsidant, mae gormodedd ohono'n cael ei gysylltu gyda phroblemau'n ymwneud â'r galon.
Clefyd y siwgwrGolygu
Gwyddys am y cysylltiad rhwng gormodedd o asid wrin a chlefyd y siwgwr ers cychwyn yr 20ed ganrif.
Syndrom metabolaiddGolygu
Cysylltiad arall.
Asid wrig yn creu cerrigGolygu
Pan nad yw'n hydoddi, gall yr asid hwn grisialu gan greu cerrig.
Asid wrig iselGolygu
Multiple sclerosisGolygu
Mae ychwanegu asid wrin (drwy dabledi inosine) yn gymorth i'r claf.