Car moethus a gynhyrchir yng ngwledydd Prydain yw'r Aston Martin DB5 grand tourer ac a ddyluniwyd gan y cwmni Eidalaidd Carrozzeria Touring Superleggera. Cafodd ei ryddhau'n fasnachol yn 1963, ac fe'i bwriadwyd fel terfyn y gyfres 'DB4' a dechrau oes newydd y DB5. Ffurfiwyd yr enw o flaen llythrennau Syr David Brown, entrepreneur ac a fu wrth lyw Aston Martin o 1947 i 1972. Mae'n gar nodedig am iddo ymddangos yn un o ffilmiau James Bond - nid y car cyntaf na'r olaf i wneud hynny - pan ymddangosodd yn y ffilm Goldfinger (1964).[3] Ei chwaer cyfoes yw'r Aston Martin DB11, sy'n gwerthu am oddeutu £160,000.

Aston Martin DB5
Brasolwg
GwneuthurwrAston Martin
Cynhyrchwyd1963–1965
cynhyrchwyd 1,059[1]
Corff a siasi
DosbarthGrand tourer (S)
Math o gorff2-ddrws 2+2 coupé
2-ddrws convertible (123)
shooting brake 2-ddrws (13)[2]
GosodiadInjan-ffrynt, gyriant olwynion cefn
Pweru a gyriant
InjanDOHC Straight six, 3995 cc, 282 bhp @ 5500 rpm 280 lbs-ft @ 4500 rpm
Trosglwyddiadblwch ZF 5-cyflymder neu fel opsiwn: Borg-Warner 3-cyflymder otomatig
Maint
Hyd4.57 metre (179.9 in)
Lled1.68 metre (66.1 in)
Cyd-destun
RhagflaenyddAston Martin DB4
OlynyddAston Martin DB6

Y cynllun golygu

Y prif wahaniaeth rhyngddo a'r DB4 cyfres V yw ei injan - alwminiwm yn hytrach na dur trwm, a hwnnw gryn dipyn yn fwy nerthol: 4.0 L; yn hytrach na 3.7 L a chafwyd hefyd trawsyriant 5-cyflymder ZF Friedrichshafen[4] a 3 carbwradur SU. Gall yr injan gynhyrchu 282 bhp (210 kW), gydag uchafswm cyflymder o 145 mph (233 km/h) o ran y fersiwn a alwyd yn Vantage ac a ddaeth yn safon gydag ymddangosiad y DB5 ym Medi 1963.[5]

Yn y fersiwn arferol, roedd cadeiriau a symudai'n ôl, carpedi gwlan, ffenestri trydan, dau danc tanwydd, olwynion crom, oerydd olew a llond car o ledr. Dau ddrws oedd i bob model: 2+2.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Wan, Mark (2005). "Aston Martin DB5 (1963)". AutoZine.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-05. Cyrchwyd 2016-09-10.
  2. Cottingham, Tim (9 Gorffennaf 2008). "Aston Martin DB5 Shooting Brake by Harold Radford (1965–1967)". AstonMartins.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-15. Cyrchwyd 2016-09-10.
  3. Copyright 1998–2011. "Aston Martin DB5 :: Q Branch :: MI6 :: The Home Of James Bond 007". MI6. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-08. Cyrchwyd 27 Ionawr 2011.
  4. Flammang, James M. (1994). Standard Catalog of Imported Cars, 1946-1990. Iola, WI: Krause Publications. t. 57. ISBN 0-87341-158-7.CS1 maint: ref=harv (link)
  5. "Used car test: 1964 Aston Martin DB5". Autocar 129 (3777): 46–47. 4 Gorffennaf 1968.