Aston Martin
Gwneuthurwr ceir moethus o wledydd Prydain ydy Aston Martin Lagonda Limited a sefydlwyd yn 1913 gan Lionel Martin a Robert Bamford. Er fod y cwmni'n cynhyrchu ceir ers dros can mlynedd, dim ond 70,000 o geir a gynhyrchwyd. Yn 2013 gwnaeth y cwmni golled o £25.4m. Ymhlith y modelau mwyaf cyfoes mae'r DB11 a'r car heibrid newydd, yr Aston Martin Valkyrie; yn 2018, dorchuddiwyd cynlluniau car trydan a all gystadlu gyda Rolls Royce a Bentley: sef y Lagonda.
Math o fusnes | Cwmni preifat |
---|---|
Diwydiant | Cynhyrchu ceir |
Sefydlwyd | Llundain, 1913 |
Sefydlydd |
|
Pencadlys | Gaydon, Swydd Warwick, Lloegr |
Pobl allweddol |
|
Cynnyrch | Ceir |
Cyllid | £474.3 miliwn (2010)[2] |
£7.6 miliwn (2010)[2] | |
Perchennog/ion | Prestige Motor Holdings (39%) Asmar (19%) Primewagon (Jersey) Ltd (19%) Adeem Investments (11%) Daimler (5%) DAR Capital (5%) Sthewaz Automotive (2%) Eraill (10%) |
Gweithwyr | 1,250 (2010)[3] |
Is-gwmni/au |
|
astonmartin.com |
Daeth y cwmni'n adnabyddus am geir moethus mawr yn y 1950au a'r 1960au yn dilyn ffilmio Goldfinger yn 1964 a chysylltiad James Bond gyda'r DB5.
Yn ariannol bu'r cwmni mewn trafferthion ariannol am flynyddoedd, ac aeth yr hwch drwy'r siop yn y 1970au; ond cafwyd dyddiau da hefyd, yn enwedig pan roedd David Brown yn berchennog (rhwng 1947 a 2007).
Ym Mawrth 2007, prynnwyd 92% o'r cwmni Aston Martin gan gonsortiwm o fuddsoddwyr, dan arweiniad David Richards, am £479 miliwn, gyda Ford yn dal eu gafael mewn gwerth £40 miliwn o'r cwmni.[4] Daeth David Richards yn gadeirydd. Yn Rhagfyr 2012 arwyddodd y cwmni Eidalaidd Investindustrial[5] gytundeb i brynnu 37.5% o Aston Martin, gan fuddsoddi £150 miliwn.[6][7]
Sain Tathan
golyguYn Chwefror 2016 cyhoeddodd Aston Martin eu bwriad i greu ffatri cynhyrchu ceir yn Sain Tathan, ym Mro Morgannwg a fyddai'n cyflogi oddeutu mil o swyddi.[8] Dywedodd Prif Weithredwr Aston Martin Andy Palmer mewn cyfarfod i'r wasg yng Nghaerdydd fod hwn yn "ddiwrnod anrhaethol fawr i Gymru". Disgwylir y bydd y ceir yn dechrau rowlio allan o'r ffatri yn 2020. Ar y dechrau, petrol fydd y tanwydd, yna heibrid cyn troi'n gyfangwbwl yn gar trydan. Dadorchuddiwyd y car a fydd yn cael ei greu yn Sain Tathan, y DBX yn Sioe Gerbydau Geneva yn 2015 ac yna y flwyddyn dilynol cyflwynwyd yr Aston Martin cyntaf i gynnwys technoleg Mercedes, sef y DB11; bydd yn ddau gar yma'n costio oddeutu £160,000 y car.
Bydd y cwmni'n defnyddio hangar a fwriadwyd ar gyfer trwsio awyrennau rhyfel ac a foderneiddiwyd yn 2006 ar gost o £113m gyda'r enw Red Dragon Super Hanger, ond bu'n wag ers hynny.
Ceir James Bond
golyguDefnyddiwyd nifer o geir Aston Martin fel ceir y cymeriad James Bond. Defnyddiwyd y DB5 yn fwy na'r un arall ac yn 2015 crewyd can arbennig ar ei gyfer - y DB10, a gwerthwyd un o'r rhain, ar ôl y ffilmio am £2.5 miliwn.
- Goldfinger - DB5
- Thunderball - DB5
- On Her Majesty's Secret Service - DBS
- The Living Daylights - V8 Vantage a Volante
- GoldenEye - DB5
- Tomorrow Never Dies - DB5
- The World Is Not Enough - DB5
- Die Another Day - V12 a Vanquish
- Casino Royale - DB5, Aston Martin DBS a V12
- Quantum of Solace - DBS a V12
- Skyfall - DB5
- Spectre - DB10 a DB5
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "L'auto di James Bond diventa italiana. Investindustrial rileva Aston Martin" (yn Italian). 7 December 2012. Cyrchwyd 23 Awst 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 2.0 2.1 Wright, William (6 Mehefin 2011). "Aston Martin revs up to raise capital". Financial News. Cyrchwyd 28 Medi 2011.
- ↑ "England, Third of jobs go at Aston Martin". BBC News. 1 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 29 Ebrill 2009.
- ↑ "Ford sells Aston Martin for $925 million". CarTech. 12 Mawrth 2007. Cyrchwyd 14 Ionawr 2013.
- ↑ "Investments: Aston Martin". Investindustrial. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-12. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- ↑ "Aston Martin sells stake to Investindustrial". BBC News. 7 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2012.
- ↑ Jones, Rhys; Clark, Jennifer (7 Rhagfyr 2012). "Italian private equity fund Investindustrial has signed a deal to buy 37.5 percent of Aston Martin Lagonda Ltd ASTON.UL from its Kuwaiti owner Investment Dar". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-31. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2013.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 24 Chwefror 2016.