Aston Martin DB11

Car moethus o fath coupé a grand tourer ydy'r Aston Martin DB11[1] a lansiwyd ac a gynhyrchwyd gan Aston Martin yn 2016. Daeth i olau dydd yn Sioe Moduron Geneva ym Mawrth 2016 gan ddisodli'r Aston Martin DB9.[2] Dyma'r model cyntaf yng nghynlluniau newydd Aston Martin, sef Cynllun yr 2g a'r car cyntaf iddyn nhw ei gynhyrchu ers iddynt ddod i bartneriaeth gyda Daimler AG.

Aston Martin DB11
Brasolwg
GwneuthurwrAston Martin
Cynhyrchwyd2016–presennol
Adeiladwyd ynGaydon, Lloegr
Cynlluniwyd ganMarek Reichman
Corff a siasi
DosbarthGrand tourer (S)
Math o gorffcoupé 2-ddrws
GosodiadInjan-ffrynt, gyriant-ôl
Pweru a gyriant
Injan5.2 L tyrbo-deuol injan V12
Trosglwyddiadotomatig 8-cyflymder
Maint
Pellter rhwng echelau2,808 mm (111 in)
Hyd4,739 mm (187 in)
Lled2,060 mm (81 in)
Uchder1,279 mm (50 in)
Pwysau1,770 kg (3,902 lb)
Cyd-destun
RhagflaenyddAston Martin DB9

Mae gan y DB11 injan 5204 cc tyrbo-dwbwl V12 newydd sbon: yr Aston Martin tyrbo-dwbwl cyntaf i rowlio o'r ffatri a'i werthu'n fasnachol.[3] Mae'r injan yn cynhyrchu 600 bhp (447 kW; 608 PS) a 516 lb⋅ft (700 N⋅m). Lleolwyd y blwch-ger otomatig 8-cyflymder ZF yng nghefn y car. Gall y DB11 gyflymu o 0 i 100 km/h (62 mph) mewn 3.9 eiliad gan gyrraedd 322 km/h (200 mph). Yn 2017, rhoddwyd injan llai - un 4.0-litr tyrbod-dwbwl wedi'i wneud gan Mercedes-AMG yn opsiwn yn y DB11.[4] Golygai pwysau ysgafnach yr injan newydd hwn (115 kg (254 pwys yn ysgafnach na'r V12) cyfanswm pwysau'r car i lawr i 1,760 kg (3,880 pwys).

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Prince, Max (Hydref 2016). "Aston's Eleven". Road & Track 68 (3): 76-79.
  2. Ingram, Richard (2 Mawrth 2016). "New Aston Martin DB11: price, specs and video". Auto Express. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  3. Burt, Matt (2 Mawrth 2016). "Aston Martin DB11 video analysis: full tech details, prices and exclusive pics". Autocar. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016.
  4. CAR's road test team (2 Mawrth 2016). "Aston Martin DB11: new 600bhp twin-turbo GT officially revealed". Car. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016.