William Crwys Williams

bardd, pregethwr ac archdderwydd

Bardd Cymraeg oedd William Crwys Williams (enw barddol: Crwys) (4 Ionawr 1875 - 13 Ionawr 1968). Roedd yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd rhwng 1939 a 1947.

William Crwys Williams
FfugenwCrwys Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Ionawr 1875 Edit this on Wikidata
Craig-cefn-parc Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 1968 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
SwyddArchdderwydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Brodor o Graig Cefn Parc, ger Abertawe oedd Crwys. Roedd yn fab i grydd, ac yn ei dŷ nid oedd llawer o lyfrau ond y Beibl ac ychydig o rai eraill. Ond roedd ewythr Crwys, Ap Llywelyn yn fardd ac yn un â'r gallu i englyna. Ef a fagodd ddiddordeb Crwys mewn barddoniaeth. Cynghaneddwr yn bennaf oedd Ap Llywelyn, ond ei waith crefyddol oedd yn dal sylw Crwys. Ganed mewn tŷ wrth ymyl Mynydd y Gwair yn 1875 , ond ni arhosodd yno drwy ei oes, yn hytrach, aeth i ffwrdd i'r gogledd am ychydig. [angen ffynhonnell]

Cymerodd ei enw Crwys o enw Capel yr Annibynwyr, 'Pant y Crwys' yn ei bentref.

Aeth i Ysgol Rhydaman lle roedd yn paratoi i ddod yn weinidog, byddai'n mynd ar hyd y ffordd i Landeilo yn aml iawn i'r ysgol, a mynd heibio i garreg filltir. Yr un yw hwn sydd yn ei gerdd enwog - 'Y Garreg Filltir'. Aeth o'r ysgol yn Rhydaman i Goleg Bangor lle y cyfarfu â'i wraig, Grace Harriet Jones.

Yna symudodd i Frynmawr i weinidogaethu, ond pregethai yn Saesneg gan amlaf, ac roedd ei blant hyd yn oed yn siarad Saesneg! Yn ei ôl ef, roedd gweld yr iaith Gymraeg yn marw yn yr ardal yn ei dristhau'n arw. Cymharodd ei ardal - Nant y Glo i Nant yr Eira a dywedodd nad oedd y Gymraeg yn medru byw yn y glo, nid fel oedd mewn eira.

Gwaith llenyddol golygu

Roedd prif dylanwadau Crwys yn cynnwys beirdd fel Watcyn Wyn, John Morris Jones a Ceiriog. Dechreuodd sylwi mwy ar y technegau a ffyrdd o ysgrifennu, ac fe ddaeth ei neges yn gliriach o farddoni mewn arddull delynegol. Un o'i delynegion mwyaf enwog yw 'Melin Trefin'.

Enillodd y goron dair gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ym 1910 (ar 'Ednyfed Fychan', 1911 ('Gwerin Cymru') a 1919 ('Morgan Llwyd o Wynedd').

Llyfryddiaeth golygu

Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi:

  • Cerddi Crwys (1920)
  • Cerddi Newydd Crwys (1924)
  • Trydydd Cerddi Crwys (1935)
  • Cerddi Crwys: y pedwerydd llyfr (1944)

Ysgrifennodd hunangofiant yn ogystal:

  • Mynd a Dod (1945)

Cyfeiriadau golygu