John Tudor Jones (John Eilian)
Roedd John Eilian neu John Tudor Jones (29 Rhagfyr 1903 – 1985) yn fardd, yn newyddiadurwr ac yn wleidydd Ceidwadol Gymreig
John Tudor Jones | |
---|---|
Ganwyd | 29 Rhagfyr 1903 Llaneilian |
Bu farw | 9 Mawrth 1985 |
Man preswyl | Llaneilian |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, llenor |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd John Tudor Jones yn Llaneilian, Ynys Môn ar 29 Rhagfyr 1903[1] a'i fagu ar fferm ei nain, Penylan, ym mhentref Llaneilian, Ynys Môn, ble cymerodd ei enw barddol "John Eilian".[2]
Cafodd ei addysg yn Ysgol Penysarn, Ysgol Ramadeg Llangefni, Coleg Prifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Ymadawodd a'r naill brifysgol a'r llall heb ennill gradd.
Ei fwriad wrth fynd i Rydychen oedd hyfforddi i fod yn Offeiriad yn yr Eglwys Anglicanaidd. Er iddo beidio a gwneud hyn arhosodd Yr Eglwys yng Nghymru ac uchel-eglwysaeth yn bwysig iddo am weddill ei oes.[3]
Newyddiaduraeth
golyguAr ôl gadael Prifysgol Rhydychen aeth John Eilian i weithio fel cyw newyddiadurwr ar Y Western Mail yng Nghaerdydd a bu yno am tua thair blynedd. Ei swydd gyntaf gyda'r Western Mail oedd ymweld ag ardal Rhydlewis er mwyn profi anwiredd honiadau Caradoc Evans yn ei lyfr enwog My People am anfoesoldeb a rhagrith pobl yr ardal.[4]
Wrth weithio ar y Western Mail daeth Jones yn gyfeillgar a'r bardd a newyddiadurwr Caradog Pritchard; perswadiodd Pritchard ef i symud i Stryd y Fflyd, Llundain ym 1927 i weithio ar y Daily Mail. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain dechreuodd cyhoeddi misolyn Cymraeg poblogaidd Y Ford Gron. Jones ei hun oedd perchennog Y Ford Gron yn wreiddiol ac roedd yn ei baratoi a'i olygu o'i gartref yn Llundain. Ar ôl i'r cylchgrawn brofi'n boblogaidd gwerthodd Jones y teitl i'r argraffwyr Hughes a'i Fab a symudodd i Wrecsam i weithio fel golygydd llawn amser ar y cylchgrawn.
Ym 1932 prynodd Hughes a'i fab yr hawl ar enw Y Cymro fel teitl ar bapur newydd. Cyhoeddwyd papur o'r enw’r Cymro gan gwmni Evans yn Nolgellau yn y 1920au ond doedd Hughes a'i Fab dim am barhau â'r hen gyhoeddiad - dim ond cael yr hawl i ddefnyddio'r enw ar gyfer papur newyddion cenedlaethol newydd spon. Pan gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r papur John Eilian oedd ei olygydd.
Gan nad oedd cylchrediad Y Cymro cystal ag roedd ei gyhoeddwyr wedi'i ddisgwyl, penderfynodd Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab uno'r Cymro efo'r Ford Gron a oedd a chylchrediad iachach ac achosodd hyn anghydfod rhwng Thomas a Jones ac fe ymadawodd Jones a'r cwmni ym 1935.
Wedi ymadael a'r Cymro a'r Ford gron aeth Jones i Colombo yn olygydd The Times of Ceylon ac i roi cymorth i sefydlu gorsaf radio cenedlaethol cyntaf y wlad. Wedi cyfnod yn Ceylon aethai i'r Dwyrain Canol lle fu'n olygydd i'r Macedonian Times a'r Iraq Times.
Dychwelodd i Gymru i fod yn Bennaeth Rhaglenni'r BBC yng Nghaerdydd ac yn ystod yr Ail Rhyfel Byd symudodd i Lundain i redeg Adran Dramor y BBC, swydd hynod bwysig o ystyried y sefyllfa ryngwladol.
Yn ystod cyfnod y rhyfel adferwyd y perthynas rhwng Jones a Hughes a'i Fab a bu Jones yn cyfrannu erthyglau cefnogol i'r rhyfel a'r llywodraeth i'r Cymro o dan yr enw Robin Bwrgwyn, fel ymateb i golofn llawer llai taeog Cwrs y Byd Saunders Lewis yn Y Faner.
Ar ôl y Rhyfel penodwyd John Eilian yn olygydd un arall o bapurau Hughes a'i Fab y Border Counties Advertiser oedd a'i chylchrediad yn bennaf yn ardal Croesoswallt.
Ym 1953 symudodd yn ôl i ogledd Cymru lle dreuliodd chwarter canrif olaf ei yrfa fel prif olygydd papurau cwmni'r Herald yng Nghaernarfon[5], y cwmni oedd yn cyhoeddi Yr Herald Gymraeg, Y Caernarfon and Denbigh Herald a'r Holyhead and Anglesey Mail.
Bardd a Llenor
golyguYn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth daeth John Eilian yn gyfaill â Prosser Rhys golygydd Y Faner a oedd yn cael ei chyhoeddi yn Aberystwyth ar y pryd a chyhoeddodd y ddau gyfrol o farddoniaeth ar y cyd, Gwaed Ifanc, a oedd yn cael ei hystyried yn llyfr gwefreiddiol a chwyldroadol, ar y pryd.[6]
Tra' n golygu'r Cymro a'r Ford Gron roedd Jones yn gyfrifol am olygu cyfres o lyfrau bach o glasuron barddol a llenyddol Cymru i gwmni Hughes a'i Fab o'r enw Llyfrau'r Ford Gron yn ogystal â golygu'r gyfres fe bu'n awdur rai o'r cyfrolau, er enghraifft y gyfrol am Hanes a Gwaith Syr O M Edwards. Cyfieithodd bedair stori i blant i'r Gymraeg ar gyfer cwmni Harrap yn 1953 - Robin Hood, Y Brenin Arthur, Ali Baba a Siân D'Arc.[7]
Cyfieithodd a chyfansoddodd dros 80 o gerddi i'w gosod i gerddoriaeth a gyhoeddwyd gan gwmni W S Gwynn Williams gan gynnwys gweithiau clasurol megis oratorio Handel Judas Maccabaeus, caneuon gwerin megis Hey ho, to the greenwood William Byrd ac ychwanegu penillion i hen ganeuon Gymraeg megis Bwthyn fy Nain.
Enillodd John Eilian y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947 a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dolgellau 1949.
Gwleidyddiaeth
golyguYn ei ieuenctid roedd Jones yn Sosialydd pybyr ond wedi ei gyfnod yn gweithio i'r Daily Mail drodd ei gefnogaeth i'r asgell dde, eithafol ar adegau. Er ei fod yn Gymro da ar sawl ystyriaeth roedd yn honni nad oedd Cymru'n wlad, dim ond yn olion hen daleithiau Prydeinig anghofiedig. Ddalai mai Lerpwl oedd prifddinas Gogledd Cymru a bod gan Gogledd Orllewin Cymru llawer mwy yn gyffredin a Gogledd Orllewin Lloegr nag unrhyw le i'r de o Bont ar Ddyfi. Roedd yn casáu Cymdeithas yr Iaith ag unrhyw ymgyrch wleidyddol i gefnogi'r Gymraeg a'r genedl Gymreig.
Bu rhai o'i gyfeillion megis Percy Ogwen Jones, tad yr Athro Bedwyr Lewis Jones yn ceisio amddiffyn ei agwedd trwy egluro mae ceisio creu adwaith ydoedd er mwyn enyn ymateb yn ei bapurau, ond mae hynny'n annhebygol iawn, gan iddo wrthod cyhoeddi unrhyw lythyr nac unrhyw farn roedd yn eu hystyried yn annheyrngar am Arwisgo'r Tywysog Charles ym mhapurau'r Herald.[8]
Oherwydd ei wrth Gymreictod roedd yn cael ei wawdio'n aml yng nghylchgrawn Lol a chyfrolau'r bardd Derec Tomos ac fe fu hynny'n gryn bleser iddo.
Safodd fel ymgeisydd tair gwaith yn etholaeth Ynys Môn ar ran y Blaid Geidwadol yn Etholiadau Cyffredinol 1964, 1966 a 1970 gan gipio'r ail safle ar bob achlysur.[9]
Anrhydeddau
golyguCafodd ei urddo yn OBE am wasanaethau i newyddiaduraeth ac yn 2004 dadorchuddiwyd plac er cof amdano y tu allan i'w gartref teuluol ym Mhenylan Llanelian.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ GRO Mynegai i dystysgrifau marwolaeth Ardal Cofrestru Bangor Mawrth 1985 Cyfrol 25 tud 255
- ↑ Yr Archif Genelaethol Cyfrifiad 1911 Penylan Llaneilian RG14/34577 rhestr 18 tud 36
- ↑ http://www.casglwr.org/yrarchif/25john.php adalwyd 2 Rhagfyr 2013
- ↑ John Harris Caradoc Evans: My People Right Or Wrong yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion - 1995 (Fersiwn ar-lein http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1386666/llgc-id:1424716/llgc-id:1424869/getText )
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/enwogion/llen/pages/john_eilian.shtml adalwyd Rhagfyr 3 2013
- ↑ Y Bywgraffiadur ar lein Rhys, Prosser http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-RHYS-PRO-1901.html adalwyd 2 Rhag 2013
- ↑ http://darganfod.llgc.org.uk/default.ashx?q=John+Tudor+Jones adalwyd Rhag 2 2013
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/tuesday-7-july-2009-2092783 adalwyd Rhag 2 2013
- ↑ James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/yr_arwydd/newyddion/mai04.shtml adalwyd 3 Rhag 2013