Atomfa Trawsfynydd
Atomfa Magnox sydd yn y broses o gael ei dadgomisiynu yw Atomfa Trawsfynydd, a leolir ger pentref Trawsfynydd yng Ngwynedd. Ond Gellilydan yw'r pentref agosaf, llai na milltir i ffwrdd.
Math | atomfa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trawsfynydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9249°N 3.9484°W |
Rheolir gan | Magnox Ltd |
Dechreuwyd y gwaith ar atomfa Trawsfynydd ym mis Gorffennaf 1959, ac roedd y ddau adweithydd yn rhedeg erbyn Mawrth 1965. Ar un adeg roedd cannoedd o bobl yn gweithio yn Nhrawsfynydd gan ei wneud y prif gyflogydd mewn ardal wledig heb weithfeydd mawr. Pan oedd y gwaith ar ei anterth roedd dros 800 o weithwyr o'r tu allan i'r ardal yn byw yng ngwersyll Bronaber, cyn-wersyll byddin Lloegr, gyda nifer ohonyn nhw yn Wyddelod. Ymsefydlodd rhai o'r gweithwyr hyn yn yr ardal a bu cynnydd yn y boblogaeth[1]
Agorodd yr atomfa yn llawn ym mis Hydref 1968, ac erbyn hynny roedd wedi costio £103 miliwn.[2] Roedd ganddo ddau adweithydd niwclear Magnox yn cynhyrchu cyfanswm o 470 megawatt (MW).[2] Cyflenwyd yr adweithyddion gan gwmni Atomic Power Construction (APC) a'r tyrbinau gan Richardsons Westgarth & Company. Gwnaed y gwaith peiriannol sifil gan Holland Hannen & Cubitts.[3]
Defnyddiai'r atomfa ddŵr o gronfa Llyn Trawsfynydd i oeri'r adweithyddion ac roedd y cyflenwad hwn o ddŵr a'r lleoliad anghysbell yn un o'r prif resymau gan yr awdurdodau gwladol dros ddewis Trawsfynydd ar gyfer yr atomfa newydd. Byddai'r atomfa yn gollwng 70,000 galwyn o elifiant bob wythnos i mewn i’r llyn.[1]
Mae'r ddau adweithydd ar gau ers 1991 ac mae'r safle yn cael ei dadgomisiynu ar hyn o bryd gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (Nuclear Decommissioning Authority).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Heneb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-12. Cyrchwyd 2009-05-28.
- ↑ 2.0 2.1 "Nuclear Power Plants in the UK - Scotland and Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-19. Cyrchwyd 2009-05-28.
- ↑ An historical survey of Cubitts, from the Company's inception in 1810 to the present day (Cubitts, 1975), tud. 25.
Dolenni allanol
golygu- Hanes yr atomfa a'r llyn ar wefan Heneb Archifwyd 2007-07-12 yn y Peiriant Wayback
- "Dadgomisiynu'r Atomfa", ar wefan BBC Cymru
- (Saesneg) Gwefan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (tudalen Trawsfynydd)
- Lluniau o atomfa Trawsfynydd Archifwyd 2013-06-01 yn y Peiriant Wayback