Bronaber

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yng Ngwynedd yw Bronaber ("Cymorth – Sain" ynganiad) . Saif ar y briffordd A470, ychydig i'r de o bentref Trawsfynydd; Cyfeirnod OS: SH 71076 31631. Llifa afon Eden ychydig i'r gorllewin iddo, ac mae hen ffordd Rufeinig Sarn Helen fymryn i'r dwyrain.

Bronaber
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.869°N 3.914°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH711319 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Roedd gwersyll milwrol yma o tua 1906 ymlaen, a defnyddir yr ardal ar gyfer ymarfer tanio. Caewyd ef fel gwersyll milwrol yn 1957-8, ond yna fe'i defnyddiwyd ar gyfer gweithwyr oedd yn adeiladu Atomfa Trawsfynydd. Mae rhan o'r hen wersyll milwrol yn awr yn bentref gwyliau. Gerllaw mae gwesty Rhiw Goch, lle dywedir i'r merthyr Catholig Sant John Roberts gael ei eni.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu


Cyfeiriadau golygu