Aulus Cremutius Cordus
Haneswr Rhufeinig oedd Aulus Cremutius Cordus neu Cremutius Cordius (bu farw 25 OC).
Aulus Cremutius Cordus | |
---|---|
Ganwyd | 1 g CC |
Bu farw | 25 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | hanesydd, seneddwr Rhufeinig |
Adnabyddus am | Annales |
Plant | Marcia |
Cyfansoddodd Cremutius lyfr hanes a groniclodd deyrnasiad Augustus a'r rhyfeloedd cartref Rhufeinig. Ond pechodd yn erbyn Tiberius drwy gyfeirio at Cassius fel "yr Olaf o'r Rhufeinwyr" yn ei lyfr a dywedir iddo lwgu ei hun i farwolaeth mewn ofn.
Dinistriwyd ei gronicl ar orchymyn Tiberius, ond llwyddodd Marcia, merch Cremutius, i ddiogelu rhai copïau o'r testun. Ond erbyn heddiw mae'r testunau hynny ar goll hefyd.
Cyfeirir at yr hanesydd yng ngwaith Seneca'r Ieuaf, Tacitus a Suetonius, ac rydym yn dibynnu ar y dyfyniadau a'r wybodaeth a geir yn y llyfrau hynny am ein gwybodaeth am Cremutius ei hun a'i waith.