Gaius Cassius Longinus
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd a rhan amlwg yn y cynllwyn o lofruddio Iŵl Cesar oedd Gaius Cassius Longinus (bu farw Hydref 42 CC).
Gaius Cassius Longinus | |
---|---|
Ganwyd | c. 82 CC Rhufain hynafol |
Bu farw | 42 CC o gwaediad Philippi |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | tribune of the plebs, quaestor, Praetor, llywodraethwr Rhufeinig, moneyer |
Tad | Gaius Cassius Longinus |
Mam | Unknown |
Priod | Junia Tertia |
Plant | Cassius |
Llinach | Cassii Longini |
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei ieuenctid. Yn 53 CC roedd yn dal swydd quaestor, a chymerodd ran yn ymgyrch Crassus yn erbyn y Parthiaid. Pan orchfygwyd Crassus ger Carrhae, llwyddodd Cassius o achub rhan o'r fyddin, ac yna amddiffyn Syria rhag y Parthiaid. Yn 49 CC a 48 CC, roedd yn llyngesydd ar ran o lynges Pompeius. Wedi Brwydr Pharsalus, rhoddodd Iŵl Cesar bardwn iddo.
Roedd yn briod a Iunia Tertia, chwaer Marcus Junius Brutus. Roedd ganddo ran amlwg gyda Brurus yn llofruddiaeth Cesar ar 15 Mawrth 44 CC. Yn fuan wedyn, gadawodd Rufain am Syria, lle gorchfygodd Dolabella mewn brwydr ger Laodicea.
Yn 42 CC, croesodd ef a Brutus i Thrace i wynebu Marcus Antonius a Gaius Octavianus (yr ymerawdwr Augustus yn ddiweddarach. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi, gorchfygwyd y rhan o'r fyddin yr oedd Cassius yn gyfrifol amdani gan fyddin Antonius, a lladdodd Cassius ei hun.
Cassius mewn llenyddiaeth
golygu- Mae Dante Alighieri yn gosod Cassius gyda Brutus a Judas Iscariot yn rhan isaf Uffern yn Inferno, rhan o'i Divina Commedia (Inf., XXXIV, 64-67), yn cael eu cnoi yng ngenau Satan.
- Mae Cassius yn un o'r prif gymeriadau yn y ddrama Julius Caesar gan William Shakespeare, lle'r awgrymir mai cenfigen oedd yn ei symbylu i ladd Cesar, yn wahanol i Brutus, oedd a chymhellion uwch.