Dinas a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Siena, sy'n brifddinas talaith Siena yn rhanbarth Toscana.

Siena
Mathtref goleg, cymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth52,812 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantAnsanus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTalaith Siena Edit this on Wikidata
SirTalaith Siena Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd118.53 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr322 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAsciano, Castelnuovo Berardenga, Monteroni d'Arbia, Sovicille, Monteriggioni Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3183°N 11.3314°E Edit this on Wikidata
Cod post53100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Siena Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganSenius and Aschius Edit this on Wikidata

Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 52,839.[1]

Sefydlwyd Siena yn y cyfnod Etrwscaidd (tua 900 CC hyd 400 CC), pan oedd yn eiddo llwyth y Saina. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Augustus, sefydlwyd tref Rufeinig, Saena Julia, yma. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Siena gan Senius, mab Remus, brawd Romulus.

Nid oedd Siena yn dref lewyrchus iawn yn y cyfnod Rhufeinig, a dim ond wedi i'r ardal ddod i feddiant y Lombardiaid y daeth ei safle yn fwy addas ar gyfer masnach. Cipiwyd y ddinas gan Siarlymaen yn 774, a daeth yn ganolfan fasnach bwysig.

Yn ystod y 12g a'r 13g roedd Seiena yn ddinas-wladwriaeth anninynnol, a bu llawer o ymladd rhyngddi hi a dinas Fflorens. Ar 4 Medi 1260 ymladdwyd Brwydr Montaperti, pan enillodd y Sieniaid frwydr fawr dros fyddin Fflorens, gan ladd tua 15,000 ohonynt. Sefydlwyd Prifysgol Siena yn 1203. Daeth Gweriniaeth Siena i ben yn 1555, pan fu raid iddi ildio i Fflorens.

Ymhlith y prif atyniadau i ymwelwyr mae'r Duomo di Siena, yr eglwys gadeiriol, sy'n un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth Romanésg. Enwyd canol hanesyddol Siena yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Duomo di Siena
Duomo di Siena 

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018