Awditoriwm Ryman
Mae Awditoriwm Ryman yn adeilad yn Nashville, Tennessee. Adeiladwyd yr awditoriwm, yn wreiddiol y 'Union Gospel Tabernacle', gan Thomas Green Ryman i roi lle i'r Parchedig Samuel Porter Jones i bregethu. Cynhaliwyd y wasanaeth gyntaf ar 25 mai 1890 er bod yr adeilad ddim wedi cael ei gwblhau. Cwblhawyd yr adeilad ym 1892, yn costio $2,700 ac yn dal 3755 o bobl. Adeiladwyd balconi ym 1897, yn caniatáu cyfanswm o 6,000 o bobl yn yr adeilad. Adeiladwyd llwyfan ym 1901 ar gyfer operâu. Bu farw Ryman ym 1904 a daeth yr adeilad yr Awditoriwm Ryman. Daeth y Grand Ole Opry i'r awditoriwm ar 5 Mehefin 1943. Symudodd y Grand ole Opry i adeilad newydd, y Tŷ Grand Ole Opry, ym Mawrth 1974. Prynwyd yr awditoriwm gan Gwmni Adloniant Gaylord ym 1989, a dechreuodd gwaith trwsio. Ailagorwyd yr awditoriwm ar 3 Mehefin 1994. Ymysg y bobl sydd wedi bod ar lwyfan yr awditoriwm yw Sarah Bernhardt, Theodore Roosevelt, Helen Keller, Charlie Chaplin, Enrico Caruso, Katherine Hepburn, Bob Hope, Doris Day, Elvis Presley, Johnny Cash, a Dolly Parton.[1]
Math | canolfan celfyddydau perfformio, canolfan gerddoriaeth, theatr |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1892 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nashville |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 36.206809°N 86.692091°W |
Perchnogaeth | Ryman Hospitality Properties |
Statws treftadaeth | National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA |
Sefydlwydwyd gan | Tom Ryman |
Manylion | |