Helen Keller
Awdur, ymgyrchydd a darlithydd o'r Unol Daleithiau oedd Helen Adams Keller (27 Mehefin 1880 – 1 Mehefin 1968). Hi oedd y person cyntaf i raddio o goleg er gwaethaf bod yn ddall a byddar.
Helen Keller | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Helen Adams Keller ![]() 27 Mehefin 1880 ![]() Tuscumbia ![]() |
Bu farw |
1 Mehefin 1968 ![]() Achos: clefyd ![]() Easton ![]() |
Man preswyl |
Coolidge Hill Road, Dana Street ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Addysg |
Baglor yn y Celfyddydau ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, areithydd, awdur ysgrifau, gweithredydd gwleidyddol, undebwr llafur, gweithredydd heddwch, swffragét, ieithydd, hunangofiannydd ![]() |
Adnabyddus am |
The Story of My Life, The Frost King ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Sosialaidd America ![]() |
Tad |
Arthur Henley Keller ![]() |
Mam |
Catherine Adams ![]() |
Perthnasau |
Charles W. Adams ![]() |
Gwobr/au |
Medal Rhyddid yr Arlywydd, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Alabama, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Hall o Honor y Blaid Lafur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Sant Sava, Marchog Urdd y Groes Ddeheuol, Marchog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Bernardo O'Higgins, Urdd y Trysor Sanctaidd, Urdd Teilyngdod, Urdd Croes y De, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed hi yn Tuscumbia, Alabama, yn ferch i'r Capten Arthur H. Keller a Kate Adams Keller, oedd yn gyfneither i Robert E. Lee. Pan oedd tua 19 mis oed, cafodd afiechyd a ddisgrifwyd gan ei meddygon fel "llid ar yr ystumog a'r ymennydd", a'i gadawodd yn ddall a byddar. Datblygodd hi a Martha Washington, merch chwech oed cogydd y teulu, system o arwyddion i gyfathrebu â'i gilydd; erbyn iddi gyrraedd saith oed roedd ganddi tua 50 o arwyddion. Yn 1886 gyrrodd ei mam Helen a'i thad i Baltimore, Maryland, i ymgynghori a Dr. J. Julian Chisolm. Awgrymodd ef iddynt gysylltu â'r 'Perkins Institute for the Blind', a phenododd y sefydliad Anne Sullivan i weithredu fel tiwtor i Helen. Llwyddodd hi i ddysgu Helen i siarad ac darllen Braille. Yn 1904, graddiodd o Radcliffe College.
Aeth Helen ymlaen i fod yn ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl, dros y bleidlais i ferched, heddychaeth ac achosion sosialaidd. Daeth y stori o sut y gallodd Annie Sullivan ddysgu Helen i gyfathrebu yn enwog trwy'r ffilm The Miracle Worker.