Actores Ffrengig oedd Sarah Bernhardt (22 Hydref 184426 Mawrth 1923). Daeth yn enwog trwy Ewrop yn y 1870au, ac ymledodd ei henwogrwydd i'r Unol Daleithiau hefyd.

Sarah Bernhardt
GanwydRosine Bernardt Edit this on Wikidata
23 Hydref 1844 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 1923 Edit this on Wikidata
o wremia Edit this on Wikidata
Paris, 17fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Conservatoire national supérieur d'art dramatique Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, dawnsiwr, ysgrifennwr, actor Edit this on Wikidata
SwyddSociétaire of the Comédie-Française Edit this on Wikidata
TadEdouard Bernhardt Edit this on Wikidata
MamJudith-Julie Bernardt Edit this on Wikidata
PriodJacques Damala Edit this on Wikidata
PartnerSamuel Pozzi Edit this on Wikidata
PlantMaurice Bernhardt Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed hi yn ninas Paris fel Marie Henriette Bernardt, yn ferch i Julie Bernardt a thad oedd efallai o'r Iseldiroedd. Roedd ei thaid, Moritz Bernardt, yn fasnachwr Iddewig yn Amsterdam.

Dechreuodd actio yn 1862 pan oedd yn astudio yn y Comédie-Française. Er mai actio ar y llwyfan yr oedd yn bennaf, gwnaeth nifer o recordiadau o ddialogau o ddramau; y cynharaf oedd darlleniad o Phèdre gan Jean Racine, yng nghartref Thomas Edison yn Efrog Newydd yn y 1880au. Roedd yn un o arloeswyr y ffilmiau distaw, gan berfformio mewn ffilm am y tro cyntaf fel Hamlet mewn ffilm ddau funud o hyd yn 1900.

Yn 1905, anafodd ei choes tra'n perfformio yn Rio de Janeiro, ac yn 1915 bu raid torri'r goes ymaith, ond parhaodd i berfformio. Bu farw yn 1923, a chladdwyd hi ym Mynwent Père Lachaise, Paris.

Llyfrau ganddi golygu

  • Dans les Nuages, Impressions d'une Chaise Charpentier (1878)
  • L'Aveu, drame en un acte en prose (1888)
  • Adrienne Lecouvreur, drame en six actes (1907)
  • Ma Double Vie (1907)
  • Un Coeur d'Homme, pièce en quatre actes (1911)
  • Petite Idole (1920)
  • L'Art du Théâtre: la voix, le geste, la prononciation, etc.