Awdurdod Harbwr Caerdydd

Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) yw'r awdurdod rheoli ar gyfer Bae Caerdydd, o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 ac fe'i sefydlwyd ar 1 Ebrill 2000. Cymerodd y cyfrifoldeb oddi wrth Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ac mae'n gyfrifol am y bae mewnol, Morglawdd Bae Caerdydd, yr harbwr allanol a'r afonydd Taf ac Elái. Mae awdurdod yr harbwr yn rhan o Gyngor Caerdydd ac mae'n awdurdod harbwr statudol ar gyfer Bae Caerdydd.

Mae'r awdurdod yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.[1]

Cyfrifoldebau golygu

 
Bae Caerdydd

Mae cyfrifoldebau AHC yn cynnwys dyfroedd mewndirol Bae Caerdydd (yn cynnwys Dociau Sych Mount Stuart), Afon Taf hyd at y Gored Ddu, Afon Elái hyd at gored Wiggins Teape,[2] yr harbwr allanol a Morglawdd Bae Caerdydd. Rhoddwyd cyfrifoldeb hefyd dros dir Plas Roald Dahl a Doc Sych y Sianel.

Fe wnaeth yr awdurdod gymryd y cyfrifoldebau yma o Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ar ei ddiddymiad ar 31 Mawrth 2000.[3]

Maen nhw'n gyfrifol am nifer o gyfleusterau o gwmpas Bae Caerdydd:

Mae gan Awdurdod Harbwr Cymru nifer o ddyletswyddau statudol, yn cynnwys rheoli traffig, diogelwch, diogelwch llywio (yn cynnwys bwiau, tywysyddion, goleuadau pontydd ac arolygon sianel), cadwraeth (yn cynnwys carthio, cynnal glannau'r afon a'r warchodfa natur tir gwlyb), yn hyrwyddo defnydd masnachol a hamdden o'r bae, ac amddiffyn ei amgylchedd. Mae'r AHC yn gyfrifol am weithredu'r tri llifddor mor, y pum fflodiard sy'n cadw lefel y dŵr yn y bae a'r llwybr pysgod sy'n caniatau'r Eogiaid a Brithyll ymfudol i ddychwelyd i'r afonydd i silio.

Swyddfeydd golygu

Mae prif swyddfeydd yr awdurdod wedi ei lleoli yn Nhŷ'r Frenhines Alexandra, wrth ochr llifddor môr Dociau Caerdydd, fodd bynnag mae'r morglawdd yn cael ei reoli o Adeilad Rheoli'r Morglawdd sy'n edrych dros y 3 llifddor mor a'r harbwr allanol. Mae Meistr yr Harbwr wedi ei leoli yn Adeilad yr Amgylchedd ar ben gogleddol y morglawdd.

Badau golygu

 
RIB patrôl a cwch gweithiol Awdurdod Harbwr Caerdydd

Mae AHC yn gweithredu nifer o fadau patrôl, gweithio, arolygu a defnydd cyffredinol er mwyn cydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol. Fe dderbyniodd yr awdurdod gwch defnydd cyffredinol yn 2014, adeiladwyd gan gwmni Alnmaritec o Northumberland.[6]

Gwasanaethau Argyfwng golygu

Mae AHC yn gweithio'n agos gyda nifer o wasanaethau argyfwng. Mae Heddlu De Cymru yn cadw RIB 9m Ribcraft ar y safle, mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gwch achub 5.3m wedi ei glymu ar y morglawdd[7] ac mae Memorandwm o ddealltwriaeth rhwng AHC, Asiantaeth Forwrol Gwylwyr y Glannau, Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi, yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chwilio ac Achub Bristow Helicopter ynghylch gweithrediadau chwilio ac achub yn y bae.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cardiff Harbour Authority - Who are we?". Cardiff Harbour Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 March 2008.
  2. "Ely Paper Mills; Ely Paper Works, Ely, Cardiff". R.C.A.H.M.W. website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 4 June 2015.
  3. "A Report of: Economic Scrutiny Committee - Inquiry into the Future of the Harbour Authority". cardiff.gov.uk. Council of the City and County of Cardiff. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 4 June 2015.
  4. "Cardiff Bay Visitor Centre". Cardiff Harbour Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-17. Cyrchwyd 2016-03-09.
  5. "Cardiff Sailing Centre". Cardiff Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-24. Cyrchwyd 23 June 2013.
  6. "Harbour Workboats". alnmaritec.co.uk. Alnmarintec. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-30. Cyrchwyd 4 June 2015.
  7. "Launch of new South Wales rescue boat". southwales-fire.gov.uk. South Wales Fire and rescue Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-26. Cyrchwyd 4 June 2015.
  8. "Rescue capabilities put to the test". gov.uk. Ministry of Defence. 8 April 2014. Cyrchwyd 26 November 2015.

Dolenni allanol golygu