Annaba
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Algeria yw Annaba (Arabeg: عنابة ʿAnnaba). Ei hen enw oedd Hippo, yn ddiweddarch Hippo Regius, yna Bône pan oedd yr ardal dan reolaeth Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 207,617.
Math | commune of Algeria, dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 257,359 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Annaba District, Constantine Department, Bône Department |
Gwlad | Algeria |
Arwynebedd | 49 km² |
Uwch y môr | 3 ±1 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 36.9°N 7.77°E |
Cod post | 23000 |
Saif ar yr arfodir, yn agos at y ffîn a Tiwnisia, ac mae'n brifddinas Talaith Annaba. Ceir prifysgol yma, oedd â thua 40,000 o fyfyrwyr yn 2004, a maes awyr rhyngwladol. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu tua 1200 CC. Yn ystod y Rhyfel Pwnig Cyntaf, cipiwyd hi gan y Massyliaid dan Gala, a daeth yn brifddinas ei fab, Masinissa, gan gael yr ychwanegiad "Regius" at ei henw.
Mae'r ddinas yn enwog fel y ddinas lle'r oedd Awstin o Hippo yn esgob o 396 hyd 430 OC.[1] Yn 431, cipiwyd y ddinas gan y fandaliaid dan Geiseric, a bu'n brifddinas eu teyrnas hyd nes iddynt gipio Carthago wyth mlynedd yn ddiweddarach. Yn 534, daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd, yna yn 647 cipiwyd hi gan yr Arabiaid.
Yn yr 11g, sefydlodd yr Arabiaid ddinas newydd gerllaw yr hen ddinas, dan yr enw Beleb el-Anab. Yn 1830, newidiwyd ei henw i Bône gan y Ffrancwyr.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Hotel Le Majestic
- Mynwent Rhyfel
- Prifysgol Annaba
Pobl enwog o Annaba
golygu- Albert Camus
- Awstin o Hippo (354–430)
- Suetonius, hanesydd Rhufeinig
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bona, Algeria". World Digital Library. 1899. Cyrchwyd 2013-09-25.