Pelagius
Diwinydd Brythonig oedd Pelagius neu yn Gymraeg Pelagiws[1] neu Peleg[1] (tua 350 - tua 418), a wrthwynebai athrawiaeth Awstin o Hippo am ras anorchfygol. Condemniwyd ef a'i ddysgeidiaeth, a elwir weithiau yn 'Belagiaeth', am fod yn heresïol yn nes ymlaen ond am gyfnod bu'n eithaf dylanwadol. Yn y traddodiad Cymreig cyfeirir ato weithiau fel Morgan (sy'n deillio o 'môranedig' efallai, cyfystyr â'r enw Lladin Pelagius).
Pelagius | |
---|---|
Ganwyd | c. 354 Britannia |
Bu farw | c. 420 Palesteina |
Man preswyl | Rhufain, Carthago, Jeriwsalem |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, mynach Cristnogol, cenhadwr |
Mudiad | Pelagianism |
Cymharol ychydig a wyddom am ei hanes ei hun. Roedd yn frodor o Brydain, o dras Frythonig, a deithiodd i ddinas Rhufain ac ymsefydlu yno; ffaith sy'n awgrymu ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Daeth yn adnabyddus yno fel dysgawdr gyda chylch o ddisgyblion o dras fonheddig. Cyhoeddodd ei fod yn bosibl i ddyn ymberffeithio heb ymyrraeth Duw ac arweiniodd hynny iddo gael ei gyhuddo o wrthod ag athrawiaeth pechod gwreiddiol.
Wrth i'r Fisigothiaid baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffodd o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig Affrica. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno ffodd i Balesteina.
Yn 415 trialwyd ef ddwywaith dan gyhuddiad o heresi gan gyngor eglwysig ym Mhalesteina ond dyfarnwyd ef yn ddieuog. Yn 418 condemniwyd ef fel heretic gan y Pab.
Ysgrifennodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys De Natura a De Liber Arbitrio. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5g a'r ganrif olynol a bu Pelagius yn gyff gwawd am ganrifoedd wedi hynny. Cadarnhawyd y farn mai heretic oedd Pelagius gan Cyngor Trent (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r Calfiniaid ac i aelodau o Eglwys Loegr a oedd yn Arminaidd ers yr 17g fel Ellis Wynne a Theophilus Evans. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith i feddylwyr Calfinaidd yr Eglwys fel Esgob Armagh, James Ussher alw Arminiaeth yn 'Neo-Belagiaeth' yn Britannicarum ecclesiarum antiquitates: quibus inserta est pestiferae adversus Dei gratiam a Pelagio Britanno in ecclesiam inductae haereseos historia a gyhoeddwyd yn 1639.
Un o ddisgyblion ysbrydol Pelagius oedd yr awdur a adweinir fel Y Brython Sisilaidd. Ysgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl De Divitis ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychiad oedd Tolle divitem" ("I lawr â'r goludog!").
Mae'r dystiolaeth yn aneglur am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Garmon Sant a oedd yn Esgob Auxerre â Phrydain i ddileu dylanwad 'Pelagiaeth' gyda Lupus Sant, Esgob Troyes. Awgryma hyn fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno – neu o leiaf eu bod yn ddigon niferus i godi pryder i'r sawl ar y cyfandir. Barn Bede, ac yna Sieffre o Fynwy ar ei ôl, yw iddynt ddileu'r heresi ac ail-sefydlu’r 'gwir grefydd' ymhlith trigolion Prydain.[2] Er hyn, mae ffynonellau eraill yn awgrymu roedd yn anodd dileu'r heresi. Er enghraifft, mae Gildas yn cyhuddo'r Brenin Maelgwn Gwynedd o fod yn Belagydd. Yn ôl Buchedd Dewi, llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant, cynhaliwyd synod Llanddewi Brefi yn y chweched ganrif a galwyd ar Dewi i gondemnio 'Pelagiaeth' a oedd wedi dychwelyd eto i Gymru. Mae cenhadaeth gwrth-Belagaidd yn nodweddu bucheddau seintiau eraill hefy.
Cynhaliwyd y gondemniaeth Gymraeg ar Pelagius gan Richard Davies yn 'Epistol at y Cembru' a ragflaena'r cyfieithiad o'r Testament Newydd a wnaethpwyd gan William Salesbury yn 1567. Mae haneswyr Cymru fel Humphrey Llwyd, Charles Edwards, a Theophilus Evans, sy'n traethu amdano'n estynedig yn Drych y Prif Oesoedd, hefyd yn condemnio Pelagiaeth. Er eu bod yn unfrydig yn gwrthwynebu Pelagiaeth maent yn mynnu mai gŵr dysgedig a galluog oedd Pelagius ei hun.
Yn ddiweddar mae Ali Bonner wedi dadlau mai myth yw Pelagiaeth a grëwyd er mwyn creu uniongrededd i'r eglwys yn y bumed ganrif. Dywed hi i 'Belagiaeth' gynnwys camddehongliadau twyllodrus o'r hyn roedd Pelagius yn ei ddysgu, ac mewn gwirionedd ni fyddai Pelagius yn credu'r hyn a elwir yn 'Belagiaeth'.[3] Mae'r farn hon yn ddadleuol ac nid yw wedi cael derbyniad ffafriol.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [Pelagius].
- ↑ Geoffrey, of Monmouth, Bishop of St. Asaph,?-1154 (1966). The history of the Kings of Britain. Lewis Thorpe. Harmondsworth: Penguin. t. 160. ISBN 0-14-044170-0. OCLC 3370598.
- ↑ Bonner, Ali (2018). The Myth of Pelagianism. Oxford: Oxford University Press. tt. x–xvi. ISBN 9780197266397.
Llyfryddiaeth
golygu- Brinley R. Rees, Pelagius: A Reluctant Heretic (Woodbridge, 1988)