Awyrgludiad Berlin

Awyrgludiad i wrthwynebu Blocâd Berlin oedd Awyrgludiad Berlin (Almaeneg: Berliner Luftbrücke). Wedi'r Ail Ryfel Byd, meddianwyd tiriogaeth yr Almaen gan y Cynghreiriaid: yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, a Ffrainc yn y gorllewin, a'r Undeb Sofietaidd yn y dwyrain. Roedd dinas Berlin yn nwyrain y wlad hefyd wedi'i rhannu, ac felly roedd sectorau gorllewin Berlin yn glofan o fewn sector Sofietaidd yr Almaen. Ar 24 Mehefin 1948 rhwystrodd yr Undeb Sofietaidd reilffyrdd, ffyrdd, a chamlesi rhwng sectorau gorllewin yr Almaen a Gorllewin Berlin. Amcan y Sofietiaid oedd i orfodi Cynghreiriaid y Gorllewin i adael i'r sector Sofietaidd ddarparu bwyd a thanwydd ar gyfer holl Ferlin, ac yn y bôn i roi rheolaeth dros Orllewin Berlin i'r Undeb Sofietaidd. Trefnodd Cynghreiriaid y Gorllewin awyrgludiad i gyflenwi bwyd, tanwydd, a chymorth i bobl Gorllewin Berlin. Mewn blwyddyn cafwyd dros 200,000 o ehediadau gan Awyrlu yr Unol Daleithiau, yr Awyrlu Brenhinol, Awyrlu Brenhinol Awstralia, Awyrlu Brenhinol Canada, Awyrlu Brenhinol Seland Newydd, ac Awyrlu De Affrica. Roedd yr awyrgludiad yn llwyddiannus, ac ar 12 Mai 1949 daeth y Sofietiaid â therfyn i'r blocâd a ffurfiwyd dwy wladwriaeth: Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd yr awyrgludiad hyd 27 Awst 1949.

Awyrgludiad Berlin
Math o gyfrwngairlift Edit this on Wikidata
Dechreuwyd24 Mehefin 1948 Edit this on Wikidata
Daeth i ben30 Medi 1949 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffilm gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am Awyrgludiad Berlin
Baner Yr AlmaenEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.